BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Anwen Williams Eisteddfod dda
Ebrill 2005
Cafwyd cystadlu brwd, cyson a safonol iawn yn Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn, 19 Chwefror.
Gwelwyd cystadleuwyr o bob rhan o Gymru yn cystadlu a chalondid mawr i aelodau y pwyllgor oedd gweld cymaint o gystadleuwyr ac enillwyr lleol. Diolch i'r plant a'u hyfforddwyr. Hefyd roedd pawb yn falch o weld cynulleidfa deilwng iawn yn y ddau gyfarfod.

Beirniaid yr Eisteddfod eleni oedd: Cerdd - Garth Hughes Jones, Caernarfon; Alaw Werin a Cherdd Dant - Gwenan Gibbard, Pwllheli; Llefaru, Llên a Barddoniaeth - Alun Jones, Bow Street; Celf ac Arlunio - Eleri Davies, Llanegryn a Tony Jeffs, Bermo a'r cyfeilydd medrus oedd Tudur Jones, F.R.C.O., Tywyn.

Diolch i'r cyfeilydd a'r beirniaid am eu gwaith. Y ddwy arweinyddes a wnaeth yn siŵr fod yr Eisteddfod wedi rhedeg mor hwylus o 11 o'r gloch, bore Sadwrn, hyd at 1 o'r gloch boreSul oedd Janet Pugh ac Avril Micah, y ddwy o Lanegryn. Diolch iddynt am eu gwaith caled.

Myron LloydCadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Sulwyn Jones a gafodd y pleser a'r anrhydedd o groesawu achyflwyno y llywyddion a chafwyd areithiau difyr, doniol iawn gan y ddwy yn hel atgofion am yr amser a dreuliasant yn Llanegryn, sef Anwen Williams, Tywyn, y prynhawn a Mrs Myron Lloyd, Llanbedr, Dyffryn Clwyd, yr hwyr.

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddwy am eu geiriau caredig ac atgofion melys a'u rhoddion gwerthfawr tuag at y gronfa. Noddwyd y gadair eleni gan fanc H.S.B.C a gwerthfawrogwn eu haelioni yn fawr.

Enillwyd y gadair am gerdd ar y testun 'Braint' gan Mr T. Graham Williams, "Cefnfab" oRhiw Fawr, Abertawe. Gŵr cynhyrchiol iawn yn y byd llenyddol yn Gymraeg a Saesneg, sydd bellach wedi ennill dros hanner cant o gadeiriau a sawl coron Eisteddfodol. Mae hefyd yn adroddwr dawnus. Wedi'r seremoni bu'n gwerthu ei lyfr diweddaraf "Hunaniaeth Gymreig" ac yn garedig iawn cyfrannu cyfran o bris y llyfr i gronfa'r Eisteddfod. Yr ydym yn dra diolchgar iddo.

Yn ystod seremoni'r cadeirio seiniwyd y corn gwlad yn eu ffordd ddi-guro eu hun gan Mr Lewis Hughes, Tywyn ac yr oedd yn werth bod yno i wrando ar Mrs Mair Roberts yn canu cân y cadeirio. Cyrchwyd y bardd i'r llwyfan gan Catrin, Cae Du a Meinir, Glanmachlas. Fe'i cyfarchwyd gan Mr Carroll Hughes a Sulwyn Jones - Mrs Janet Pugh oedd yng ngofal y seremoni. Mrs Beryl Jones, Nant Madyn a'i thîm o ferched gweithgar ofalodd fod lluniaeth ar gael i bawb.

Diolch i'r merched am eu gwaith caled drwy'r dydd a rhaid yw diolch a chanmol y dynion am eu gwaith hwythau o stiwardio drwy'r dydd. Diolch i Mair Rees am addurno y llwyfan ac ati ac i John Mei Richards am ofalu fod baner Y Ddraig Goch yn chwifio wrth y Neuadd. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi, i gystadlu neu fwynhau gwrando ac i bawb arall a gyfrannodd mewn unrhyw fodd er lles llwyddiant yr Eisteddfod. A diolch yn arbennig i Mr Len Jones, Tywyn am ei rodd o gwpan arian gwerthfawr i enillydd yr unawd Cymraeg. Diolch i bawb am bopeth.

Swyddogion y pwyllgor ydy: Cadeirydd - Sulwyn Jones, Fronhaul; Is-gadeirydd - Mair Rees, Bryncrug; Trysorydd - Miss Jean Bennett, Tywyn; Is-drysorydd - Mrs Gwenan Roberts, Rhoslefain; Ysgrifenyddion - Mrs Bethan Davies, Waenfach a Mrs Avril Micah, Glanmorfa Mawr. Diolch i'r swyddogion a holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith trefnus drwy gydol y flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy