Roedd y gynulleidfa yno ar gyfer gwasanaeth gollwng y Parch Brian Wright o ofalaeth eglwysi Presbyteraidd cylch Tywyn wedi cyfnod o ddwy flynedd ar bymtheg o weinidogaeth ffyddlon a chlodwiw.Roedd presenoldeb cymaint o aelodau, cydweithwyr, edmygwyr a ffrindiau yn dystiolaeth ddiamheuol o'r parch a'r edmygedd a ddatblygodd tuag ato ef a'i briod Eirlys yma ym Mro Dysynni yn ystod y cyfnod y buont yn trigo yn ein plith. Addurnwyd y capel yn chwaethus ar gyfer yr achlysur gan chwiorydd Bethel.
Llywydd y gwasanaeth dwyieithog oedd Mr Carroll Hughes, llywydd presennol Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, a chymerwyd rhannau penodol gan gynrychiolwyr o holl eglwysi'r ofalaeth, sef eglwysi Bethel a Bethany, Tywyn; Aberdyfi (S); Pennal; Maethlon; Bryncrug a Llanegryn.
Mr Stanley Jones, Maethlon, gafodd y fraint o gyflwyno anerchiad ar ran eglwysi Cymraeg yr ofalaeth, a chyfeiriodd yn arbennig, yn ei gyfraniad diffuant, at waith diflino'r gweinidog a'i briod gyda'r bobl ifanc, ac yn benodol felly gyda chlwb "Hwyl Hwyr". Yr hyn a nodweddai'r anerchiad oedd ei gyfeiriadau cyson at "Brian ac Eirlys" gyda'i gilydd gan bwysleisio'r ffaith fod colled yr eglwysi, a'r fro, yn wir yn golled ddwbl. Diolchodd iddynt am eu llafur a'u hymroddiad a dymunodd yn dda iddynt yn eu bywyd newydd. Terfynodd ei anerchiad gyda'r penillion canlynol:
Dyma ni yn eglwys Bethel
Fel gofalaeth yma'n cwrdd,
I groesawu ein gweinidog
Gyda'i briod wrth y bwrdd.
Bu y ddau yn hybu'r achos,
Yn bileri yn eu bro,
Dod a'r genadwri'n gyson
Gyda graen i ni bob tro.
Fel y dderwen buont gadarn,
Gan anwylo plant y fro,
Cofio'r gweiniaid a'r anghenus
A'r hynafiaid yn eu tro.
Boed i wenau'r nef ddisgleirio
Ar eu bywyd ddyddiau maith,
Fel bo neges yr Efengyl
Yn ganllawiau ar eu taith.
Ar ran yr eglwysi Saesneg, cyfeiriodd Mrs Hazel Roberts, Bethany, at ymrwymiad y Parch Brian Wright i bregethu'r Efengyl ac iddo gyflawni hynny'n ganmoliaethus iawn gydol ei gyfnod fel gweinidog. Cyfeiriodd hefyd at ei ymroddiad bugeiliol gan nodi'r ffaith i lawer o hwyl a melysder fodoli gydol yr amser ar waethaf unrhyw dristwch. Soniodd am ei garedigrwydd ac ychwanegodd na fethodd Brian erioed ag ymweld â'r aelodau hynny a fu mewn ysbytai ac iddo ddod a llawer iawn o gysur i'r galarus yn eu plith.
Wrth ddymuno'n dda iddynt yn eu bywyd newydd ei chyfarchiad olaf i Brian ac Eirlys oedd "Da weision da a ffyddlon."
Parch Geraint Parry gyflwynodd yr anerchiad ar ran Cyngor Eglwysi Rhyddion Tywyn a'r Cylch, a chafwyd ganddo yntau berl o deyrnged yn nodi teyrngarwch y Parch Brian Wright i'r Cyngor, ac hefyd fel Caplan diwyd Ysbyty Tywyn ar eu rhan. Ychwanegodd: "Yn gymaint a dim, efallai, roeddem fel cyd-lafurwyr yn edmygu taerineb pregethu Brian a'i ymlyniad wrth ei weledigaeth ef o air Duw, heb ildio i'w gredo bersonol, ynghyd hefyd a'j ofal bugeiliol dros ei braidd a thu hwnt i hynny."
Gan ddyfynnu un o areithiau mawr y ddrama Hamlet gan Shakespeare yn ymwneud a bod yn driw i'r hunan, meddai eto: "Bu, ac mae'r ddau, Brian ac Eirlys, wedi bod yn driw i'w Harglwydd ac i'w praidd, heb arbed dim arnynt eu hunain, ac mae'n diolch a'n dyled yn fawr iawn iddynt. Aed ein gweddïau gyda hwy i'w gofalaeth newydd. Nid tasg hawdd yw codi gwreiddiau a'u trawsblannu. Boed gwlith y nefoedd arnynt i ail-gydio mewn tir newydd."
Mewn anerchiad ar ran yr Henaduriaeth cyfeiriodd Mr Geraint Lloyd Jones, Ysgrifennydd, at ffyddlondeb y Parch Brian Wright i'w Henaduriaeth gydol ei gyfnod yng Ngorllewin Meirionnydd a nododd ffaith arall hynod, sef bod y Parch Brian Wright wedi dilyn llwybr a gyrfa'r diweddar Barchedig R. Merfyn Jones deirgwaith sef i Drawsfynydd, i Dywyn ac yn awr i ardal Conwy. Diolchodd iddo am ei gyfraniad gwerthfawr a dymunodd bob bendith iddo ef a'i briod yn ei ofalaeth a'i Henaduriaeth newydd.
Yn ystod y gwasanaeth cafwyd darlleniadau o'r ysgrythur gan y Cyng. Morgan Vaughan, Bethel a Mrs Sheila Lumley, Aberdyfi (S). Cyflwynwyd yr emynau gan Mrs Eluned Besent, Pennal, Mrs Hefin Birch, Aberdyfi (S), Mrs Glenys Williams, Bryncrug a Miss Jean Bennett, Llanegryn. Traddodwyd y gweddïau gan y Parch John Elwyn Jones, Dr Terry Edwards, y Parchedig Ganon Martin Riley a Mr John Price, Ystradgwyn. Yr organydd oedd Mr Tudur Jones, F.R.CO., Tywyn ac arweinydd y gân oedd Mr Gwion Lewis.
Cyn terfynu, galwyd ar Brian ac Eirlys i ddod ymlaen ar gyfer y seremoni o gyflwyno'r dysteb anrhydeddus a gasglwyd iddynt o fewn yr ofalaeth a chyflwynwyd y siec sylweddol gan Mrs Rhian Roberts, trysoryddes yr ofalaeth. Yn ogystal, cyflwynwyd basged o flodau hardd i Mrs Eirlys Wright gan Mrs Gwen Morgans, Bethany.
Ymatebodd y Parch Brian Wright ar ei ran ei hunan a'i briod drwy ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd a chyfeiriodd yn arbennig at gefnogaeth barod ei flaenoriaid. Ymateb i alwad yr Arglwydd a wnaeth drwy symud gofalaeth ac yr oedd yn sicr fod gan yr Arglwydd ei gynlluniau yng ngofalaeth Tywyn yn ogystal. Ei obaith oedd y byddai gweinidog newydd yn cael ei sefydlu yn y dyfodol agos. Ein gobaith ninnau'n sicr yw fod ei eiriau'n broffwydol oherwydd fe fydd bwlch enfawr yn dilyn ymadawiad dau a fu mor ffyddlon a gweithgar.
Yn dilyn y gwasanaeth, mwynhawyd te hyfryd yn y festri wedi ei drefnu gan chwiorydd yr ofalaeth o dan arweiniad Mrs Catherine Vaughan a Mrs Mari Jones, Bethel.