BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Brynarfor Brynarfor
Ebrill 2008
Mae'n hysbys i bawb bellach fod adeilad Brynarfor yn cael ei ddymchwel. Bu cannoedd o fechgyn yn aros yn Brynarfor wrth dderbyn eu addysg fel 'boarders' yn Ysgol Ramadeg Tywyn fel yr oedd pryd hynny.
Dyma rai o atgofion Brian Page, Bryncrug am y chwe mlynedd a dreuliodd yn nhŷ preswyl Ysgol Tywyn, Brynarfor

Bachgen ofnus, ffwndrus tair ar ddeg mlwydd oed oeddwn pan hebryngodd fy rhieni fi i Dowyn o wersyll y Llu Awyr ym Mhenarlag ger Caer ar y Sul cyntaf o Fedi yn 1958. Roeddwn ar fin cychwyn fy nhymor cyntaf ym Mrynarfor, tŷ preswyl y bechgyn yn Ysgol Tywyn. Roedd fy nghes yn llawn o ddillad oedd wedi eu labelu - digon i bara i mi tan hanner tymor o leiaf!

Fe'm ganed yn Whitchurch, Swydd Amwythig ym mis Mawrth 1945. Cyn i mi gyrraedd Tywyn roeddwn eisoes wedi bod byw yn Wem, Ambleside, (Ardal y llynnoedd), Langwathby (Westmoreland), Singapore ac ym Mhenarlâg. Bûm yn wael awn yn Singapore ac o'r herwydd bûm yn absennol o'r ysgol am gyfnod hir. Yna pan euthum i ysgol gynradd Cyffordd yr Wyddgrug, Saltney fe fethais fy 11 plus ac yna y 13 plus pan symudais i Ysgol Uwchradd Saltney. Felly, yn addysgiadol, doedd pethau ddim yn edrych yn rhy llewyrchus pan gyrhaeddais Brynarfor, diolch i haelioni'r Llu Awyr oedd yn talu'r ffioedd.

Llun ysgol Pe baech chi'n troi i'r chwith wrth fynd i mewn i Brynarfor fe aech i ystafelloedd y cypyrddau a'r toiledau ac yna yn syth o'ch blaen roedd yna risiau. (Mwy am y rhain yn nes ymlaen). Troi i'r dde ac fe welech chi ystafell gyffredin y plant iau ar y chwith a'r ystafell fwyta ar y dde.

Yn syth heibio i'r ddwy ystafell yma roedd ystafell eistedd matron ar y chwith a lolfa'r meistr y drws nesaf. Yna, troi i'r dde heibio i'r ystafell fwyta a dyna chi yn ystafell gyffredin y plant hyn eto ystafell gysgu pedwar gwely y drws nesaf. Dewch yn ôl i'r fynedfa ac i fyny'r grisiau i'r llawr cyntaf i'r ystafell ymolchi. Yma fe welech bedwar neu chwech o faddonau haearn enfawr (shîc iawn erbyn heddiw!) a thoiledau. Nos Wener oedd noson y bath os cofiaf yn iawn. Ar y llawr yma hefyd y trigai Mr G.L. Davies, y prifathro gyda'i wraig a'i fab, Peter. Wrth fynd i fyny grisiau cul fe ddeuech i'r llawr uchaf a rhagor o ystafelloedd gwely. Ar ben y grisiau roedd ystafell gyda thri gwely ynddi ar y dde ac ystafell ddeg gwely ar y chwith heibio i ddwy ystafell wely y ddau feistr. Yna, ym mhen draw'r cyntedd wedi i chi droi i'r chwith heibio i'r ystafelloedd ymolchi a'r toiledau, roedd fy ystafell wely gyntaf i. Roedd ynddi ddeuddeg gwely, chwech ar bob ochr. Roedd pob ystafell wely wedi ei dodrefnu yn debyg: gwelyau o ffrâm haearn a matres, cypyrddau dillad a chistiau dillad i ni gadw ein heiddo. Roedd cadair bren wrth ochr pob gwely i ni roi ein dillad ar gyfer y diwrnod canlynol arni. Dyma fy nghartref am 200 diwrnod y flwyddyn am y chwe mlynedd nesaf.

Wnaeth y drefn ym Mrynarfor ddim amrywio llawer yn ystod y chwe mlynedd y bum yno. Cael ein deffro gan y meistr ar ddyletswydd am saith o'r gloch a gofalu bod allan o'r gwely erbyn chwarter wedi saith. Yna ymolchi a mynd i lawr i frecwast erbyn chwarter i wyth. Byddai brecwast trosodd erbyn chwarter wedi wyth oedd yn rhoi digon o amser i ni wneud y gwely, tacluso'r ystafell, glanhau ein hesgidiau a pharatoi am yr ysgol erbyn deg munud i naw. Yn ystod y diwrnod ysgol dim ond i fynd i gyrchu rhywbeth o'n locer y caniateid i ni ddychwelyd i Brynarfor yn ystod y dydd nes y byddai yn amser te - cacen, bara a jam a phaned o de - am chwarter wedi pedwar.

Doedd yna ddim teledu ym Mrynarfor pan gychwynnais i yno a phan gawsom un yn nes ymlaen fyddai hi ddim ymlaen ddim ond ar achlysuron arbennig. Dw i'n cofio Mr Davies yn ei throi hi ymlaen pan laddwyd J.F. Kennedy. Dro arall caem edrych ar rai o gemau rygbi rhyngwladol y pum gwlad.

Roedd y drefn ychydig yn wahanol ar y Sadwrn a'r Sul. Caem aros yn y gwely tan wyth o'r gloch ar ddydd Sadwrn; brecwast am hanner awr wedi wyth; cinio am hanner awr wedi hanner dydd; te am bump o'r gloch a gwely am ddeg. Ar ddydd Sul, brecwast am hanner awr wedi wyth; i'r capel neu'r eglwys erbyn deg o'r gloch; cinio am un; yr Ysgol Sul am ddau; te am bedwar ac yna y capel neu'r eglwys eto gyda'r nos. Swper am wyth o'r gloch a gwely erbyn chwarter i ddeg. Dyna'r drefn ac fe'i derbyniem hi.

Yn fy amser i roedd tua deugain o fechgyn yn byw ym Mrynarfor a thua'r un nifer o ferched yn aros yn Nhrefeddyg ar y Stryd Fawr. Deuai'r disgyblion o bob cwr o'r wlad - o'r byd, hyd yn oed - Llundain, De Cymru, Trawsfynydd, Corwen, Hong Kong, Dubai, Caer. Mae'n wir ei bod hi'n hawdd rhamantu wrth edrych yn ôl ond, yn wir, dyma flynyddoedd gorau fy mywyd. Nid yn unig fe gefais addysg ardderchog ym Mrynarfor a'r Ysgol Uwchradd ond cefais fy annog i ddod yn fabolgampwr talentog. Ac wrth gwrs, dyma'r amser pan gwrddais a'm cariad o Fryncrug!

Mae'n amlwg i mi gymryd at fywyd ym Mrynarfor fel hwyaden at ddŵr; does gen i'r un cof o gwbl o bethau drwg yn digwydd ond mae gen i lond trol o atgofion melys. Fel yr awgrymais, roeddwn yn hoff iawn o chwaraeon fel roedd amryw o'r bechgyn eraill ym Mrynarfor. Dyma'r amser pan oedd John Francis (Fanny) o Dde Cymru yn ceisio cyflwyno rygbi mewn ysgol oedd wedi gwirioni ar bêl-droed. Dw i'n amau dim iddo gael ei apwyntio gan brifathro oedd yn benboeth ynglŷn â rygbi! Ta waeth, fe gafodd ddigon o ddisgyblion eiddgar ym Mrynarfor.

Byddem yn ymarfer bob nos ar ôl yr ysgol ac yna fe fyddai yna gemau ar ddydd Sadwrn. Wedi'r cyfan, roedd hi'n ddiwrnod allan i ni ar y trên i Harlech, Machynlleth, Dolgellau neu ar fws i H.M.S. Conway, ger Bangor. Ac os byddai lwc o'n plaid ni, byddai timau pêl-rwyd a hoci'r merched yn teithio hefyd!

Os na fyddai gêm ar ddydd Sadwrn byddem yn difyrru ên hunain ar dir yr ysgol neu fel alwem alwem yn nghaffi Bob yn dre i wrando ar y juke box. Un peth a gofiaf yn dda ydy'r bechgyn yn rhuthro'n ôl o'r traeth neu'r twyni neu'r dre ar gyfer cofrestru cyn rhuthro'n ôl o'r lle y daethant. Bobl bach, roedd y merched yn amyneddgar! Dychwelyd i Brynarfor wedyn erbyn te am bump o'r gloch cyn mynd i'r pictiwrs am chwech - os oeddech chi wedi bod yn gynnil efo'ch pres poced.

Pan oeddwn i'n cychwyn ym Mrynarfor roeddwn yn cael dau swllt yr wythnos (10 ceiniog mewn arian heddiw) a dyma'r arian a dalai am fy ymweliadau a chaffi Bob. Hefyd, os galwem ym mecws Dorothy am hanner awr wedi pedwar gallem brynu cacennau yn rhad. Fy hoff gacen i hyd y dydd heddiw ydy'r jam doughnut. Fe aeth fy mhres poced i fyny i hanner coron pan oeddwn yn 16 mlwydd oed (deuddeg ceiniog a hanner); roeddwn ar ben fy nigon!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy