BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Celynin
Ionawr 2008
Wyddoch chi beth yw'r cysylltiad rhwng Bwlch yr Hendre, Arthog - (hen furddyn yr ochr isaf i fferm Cregennan), fferm Ynysfaig yn Y Friog, ac Eglwys Sant Celynnin, Llwyngwril?
Ond rhaid cyfaddef ein bod yn sôn am gysylltiad yn ôl yn y 19C. Os ewch i archifdy Dolgellau ac edrych trwy ôl-rifynnau Y Dydd o tua 1871 i 1882, fe welwch fod cyfresi o straeon wedi cael eu cyhoeddi gan un yn dwyn yr enw barddol Celynin.

Yn ôl yr enw mae'n amlwg hwyrach ei fod yn gysylltiedig a phlwy Llangelynnin. Ond pwy oedd Celynin?

Mab fferm Ynysfaig, Y Friog, oedd o. I roi ei enw iawn iddo, Edward Vaughan, mab William Vaughan, a'i daid oedd John Vaughan neu fel ei gelwid Siôn Fychan Fach, ac fe honnir ei fod yn perthyn i linach Owain Glyndŵr.

Ganed Edward tua 1837 a'i fam oedd Ellin Ellis, merch Bwlch yr Hendre, Arthog. Dywedir fod Ellin yn ferch hardd iawn, yn ddawnus ac yn meddu ar ddawn farddonol. Yn anffortunus bu Ellin farw pan oedd Edward ond yn ddwyflwydd a hanner oed, a morwyn y cartref a'i magodd wedi hynny.

Roedd ei dad William, yn flaenor yng nghapel Saron (M.C) Y Friog a dywedir mai John Vaughan, taid Edward, oedd y blaenor cyntaf yn achos y Methodistiaid yn Llwyngwril.

Er iddo golli ei fam pan yn ifanc, tyfodd i fyny mewn cartref cysurus a dechreuodd weithio ar y fferm pan ddaeth yn hŷn. Yn ôl yr hanes dim ond rhyw flwyddyn o ysgol a gafodd, ac fel amryw yn ei gyfnod dysgu ei hun fu raid wneud. Bu am ryw dri mis yn Ysgol yr Eglwys, Arthog. Mae'n debyg nad oedd ef a'r athro yn cydweld yn dda iawn. Byddai'r athro'n curo pawb ac Edward yn ei chael yn waeth na neb. Felly symud oddi yno fu raid. Dywed Edward yn ei hunangofiant ei fod wedi cael addysg gan y Parchedig William Thomas, Dyffryn Ardudwy.

Tra roedd ar ei deithiau roedd wedi dysgu rhywfaint o Saesneg ond ar ôl dychwelyd adre buan yr anghofiodd hynny o Saesneg yr oedd wedi ei ddysgu. Er mwyn meistroli'r iaith fe fu'n darllen Robinson Crusoe yn Gymraeg yn gyntaf, yna yn Saesneg.

Aeth ymlaen i ddarllen pob math o lyfrau Saesneg. Bu'n astudio seryddiaeth a rhifyddeg. Bu hefyd yn cyfieithu barddoniaeth Saesneg i'r Gymraeg. Ond nid oes sôn ei fod wedi astudio'r Gymraeg a'i llenyddiaeth.

Bu hefyd a'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth ac ar ddechrau Hydref 1864 cafodd flwyddyn o brawf yn Nhywyn. Ceisiodd rhai ei berswadio i fynd i Goleg y Bala ond ni chyrhaeddodd yno. Daliodd i bregethu am ryw dair blynedd ond yn ystod y cyfnod yma fe gafodd drawiad ar y galon. Aeth i Landrindod i yfed dŵr a gredai fyddai'n ei wella. Ar ei ffordd yno gan ei fod yn teimlo'n wael fe yfodd ychydig o frandi ar gyngor y meddyg. Ond fe gododd y brandi i'w ben gan nad oedd yn arfer yfed, ac fe'i cafodd ei hun yn cysgu ar ochr y ffordd. Daeth tri gweinidog Methodistaidd ar ei draws, a'i gario i'w lety. Oherwydd hyn fe gafodd ei dorri allan o'r weinidogaeth.

Ond roedd yr ysfa i ysgrifennu yn dal ynddo ac fe ddechreuodd anfon erthyglau ar wahanol bynciau o dan ffug enw i'r papurau Cymraeg fel Y Dydd a Baner ac Amserau Cymru. Ond ei hoff ffordd o ysgrifennu oedd ffuglen neu stori ddisgrifiadol.

Cyn hir fe ddechreuodd ysgrifennu nofelau. Roedd llawer ohonynt yn portreadu llawer o nodweddion oes Fictoria fel moesoldeb, blas ar y syfrdanol a'r melodramatig, dihirod ofnadwy, arwresau diniwed a dewr, ac arwyr dieuog a fyddai'n y diwedd yn mwynhau eu gwobr am eu rhinweddau buddugoliaethus. Gallai hefyd ysgrifennu'n ddigrif am anifeiliaid, a hefyd ysgrifennu'n ddwfn ar bynciau fel ysgariad a iawnderau etifeddiaeth.

Ymddangosodd un nofel yn Y Dydd am gath o'r enw Kitty, ond yn amlwg doedd rhai o ddarllenwyr Y Dydd ddim yn hoff iawn o straeon o'r fath. Un beirniad llym oedd Arthogfab. Meddai: "Nid yw y fath lol wirion yn werth i'w ddarllen a thalu amdano. Ac oni ddylai Celynin dreulio ei amser i gyfansoddi rhywbeth mwy teilwng ohono ei hun a llenyddiaeth Cymru na rhyw sofl-haidd didalent o'r fath? "

Ar ôl hyn penderfynodd Celynin fynd at olygydd y Dydd i ddweud wrtho am beidio cyhoeddi'r storïau. Ond pan ar y trên i Ddolgellau dechreuodd sgwrsio gyda dau o'i gyd-deithwyr. Un ohonynt oedd Mynyddig. Roedd y teithwyr arall wedi darllen hanes helyntion y gath, yn ei galw'n nofel gampus, ac nad oedd wedi darllen ddim erioed mor ddifyr â hi. A'r gŵr oedd yn canmol gymaint ar y gwaith oedd Gwilym Hiraethog.

Dyma enwi ond ychydig o'r nofelau a ysgrifennodd - Bwthyn Gwyn wrth y Môr; Wil Dafydd; Yr Hyn a Fu; Helyntion y Carwr Pur; Castell Arthur; y Byd o Chwith ac o dde; Adar y Ddrycin; Diniwed yn y Fagl.

Dywedodd Samuel Roberts, Llanbrynmair, fod un o'i nofelau yn cymharu'n ffafriol gyda 'Pickwick Papers' gan Charles Dickens, a chyfaddefodd Syr O.M. Edwards iddo fwynhau ddarllen ei nofelau pan yn ifanc yn enwedig nofel 'Wil Dafydd'.

Yn y llyfryn bach 'Hen Gymeriadau Wyf Yn Gofio Gyntaf Yn Arthog' cyfeiria y Parch H. Williams, Llwyngwril, at Celynin gan ddweud y meddai allu dynwared neilltuol. Gallai efelychu pob pregethwr a glywsai yn hollol fel y dyn ei hun ac yr oedd ganddo gof neilltuol.

Daeth ei yrfa ysgrifennu i ben tua 1881-1882, ac mae'n debygol mai dirywiad yn ei iechyd a barodd i hyn ddigwydd. Erbyn hyn hefyd roedd gwaith Daniel Owen yn ymddangos yn y newyddiaduron. Ni feddai Celynin ddawn Daniel Owen. Creu difyrrwch wnaeth Celynin gan ddadlau mai ei amcan oedd difyrru, addysgu, goleuo a llesoli y darllenydd.

Ni fentrodd Celynin o'i gynefin ond am gyfnod byr. Gwyddai pwy oedd ei gynulleidfa. 'Cymru fu fy nghyfandir i', meddai, 'Meirion fy Arabia, a phlwyf bychan Celynnin fy Aifft'.

Bu farw 15 EbriIl, 1906 yn 71 oed ac ar y dde wrth fynd at ddrws Eglwys Sant Celynnin y mae ei fedd.

O.N. Diolch i'r Athro Edward Millward, Penrhyncoch, am ganiatâd i ddefnyddio ei ysgrif ar Celynin, a ymddangosodd yng nghylchgrawn Cymdeithas Hanes A Chofnodion Sir Feirionnydd yn 2005, fel ffynhonnell i'r erthygl yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy