Cawsom ddiwrnod o farchogaeth i'w gofio gan gasglu £1,000 tuag at Gancr y Fron Cymru er cof am y diweddar annwyl Meinir Pugh, Pensarn. Diolch am eich cefnogaeth barod tuag at yr elusen holl bwysig yma.
Roedd y ddau gwrs o 12.5 milltir a 7.5 milltir yn dechrau i fyny Bwlch Maes Pandy, trwy Nant yr Eira ac yna'n arwain ar hyd gwaelodion Cader Idris ar ochr Stadryn a Phencoed.
Gyda'r haul yn tywynnu drwy'r dydd - roedd yn amlygu'r golygfeydd gwych o Graig yr Aderyn a Chastell y Bere yng Nghwm Llanfihangel y Pennant.
Diolch i Mr Gwilym a Mrs Nesta Davies, Maes y Pandy, Talyllyn am eu croeso cynnes ac am eu caniatâd i ddefnyddio'r fferm fel man cychwyn. Hefyd, hoffwn ddiolch i Mr John Lewis, Richard, Anna a'r teulu, Tŷ'n y Fach, am eu caniatâd parod i ddefnyddio eu tir a mynd trwy'r fferm. Diolch hefyd i bawb ddaeth atom i'n helpu fore Sul i sicrhau llwyddiant y diwrnod. Rhaid datgan ein diolch hefyd am gefnogaeth pawb ac am eu caredigrwydd, unai trwy arian neu gacennau blasus.
Diddorol oedd gweld Bethan Gwanas yn ei 'chowboi boots' gwyrdd yn mwynhau
diwrnod ar 'Gwylfai'. sydd heb arfer a reidio Western style. (Roedd Wil Hendre-
seifion a Ken Markham bran a marw eisiau ymuno a hi!).
"Roedd y golygfeydd yn ffantastig. Cader Idris ar ei orau o'm blaen ac ar y ffordd nôl - Cwm unigryw Llanfihangel y Pennant ar ei orau" meddai Bethan Gwanas.
'Roeddem wrth ein bodd yn gweld Enlli Llwyd, Rhiwogof, dim on 4 oed, ar ei chyeffyl 'Celt' yn ymuno yn yr hwyl. Diolch i bob un o'n haelodau - 40 ohonynt - a drodd allan i'n cefnogi.
Yn wir, mae dros 80 o aelodau wedi ymuno â Cheffylau Cadfarch erbyn hyn ac yn mwynhau'r 'Fun Rides' amrywiol sydd wedi eu trefnu.
Noddwr
Mae Ceffylau Cadfarch yn falch iawn o gyflwyno Shân Cothi, fel ein noddwr. Mae pawb yn ei hadnabod trwy'r wlad fel cantores opera heb ei hail, actores a chyflwynwraig wych ac yn bwysicach i ni, ei chrefft o drin a thrafod ceffylau - yn enwedig ei cheffyl, Caio.
Cafodd Shân golled bersonol enfawr yn 2007 pan fu farw ei gŵr, Justin Smith, o gancr y pancreas ac yntau ond yn 42 oed.
Wedi colli Justin, penderfynodd Shân a'i ffrindiau agos drefnu elusen gofrestredig o'r enw 'Amser Justin Time'.
Yn ferch i ffarier a gof, mae ceffylau wedi chwarae rhan holl bwysig ym mywyd Shân er yn ifanc iawn. Ond yn 2008 aeth ati i drefnu marathon o 300 milltir ar ei cheffyl, Caio, drwy ganol Cymru er mwyn codi arian ar gyfer 'Amser Justin Time'.
Ar 16 Awst, 2009, mae Ceffylau Cadfarch Riders yn trefnu reid arbennig i Shân er mwyn codi arian i'r elusen yma. Fe fydd Shân, a'i cheffyl 'Caio' a llawer o'i chefnogwyr yn ymuno efo ni ar ein reid.
Fe fydd y reid ar agor i bawb gan obeithio y bydd ein haelodau yn croesawu Shân ac yn codi arian i'r elusen arbennig yma.
Fe fydd y reid yn cael ei chynnal yn y Ffair Wledig ar ddydd Sul, 16 Awst, 2009.
Sylwadau Shân fel ein noddwr: "Dwi wrth fy modd fel noddwr i Geffylau Cadfarch Riders. Criw o farchogwyr brwdfrydig sy'n gwneud gwaith ffantastig.
"'Roedd ail ddechrau reidio yn grêt imi a phrynu Caio wedi bod yn brofiad gwefreiddiol ar adeg llawn tristwch a thôr calon. Mae'n ffordd unigryw o ymarfer ac yn creu cyfleoedd gwych i weld ardaloedd hyfryd sydd i'w cael yng Nghymru."