Lle cefais dy eni a'th fagu?
Cefais fy ngeni yn Ysbyty Tywyn yn y flwyddyn 1965 ac yn byw yn Glan-y-Wern ger Llanegryn tan yn 4 oed cyn symud i Dywyn lle mae Mam a Dad dal i fyw hyd heddiw.Yn wir, dwi'n 38 yfory (ar 13 Mai). Ychydig am gefndir y teulu?
Roedd Dad yn enedigol o Lanuwchlyn a Mam o'r Foel, Sir Drefaldwyn. Mae gennyf un chwaer iau o'r enw Nia sy'n byw yn Llandegfan, Sir Fôn - ychydig yn agosach na Chicago a Florida! Hithau hefyd yn nyrsio ac wedi priodi meddyg.
Beth am dy addysg cynnar?
Mynychu Penybryn oedd y cam cyntaf cyn dechrau yn Ysgol Uwchradd Tywyn.
Pa yrfa?
Yn 1982 penderfynais fentro gyrfa yn y byd nyrsio ac yn dechrau yn Ysbyty Gobowen tan 1984. Roedd yn gam enfawr er nad yw Croesoswallt ond tafliad carreg o'm cynefin yn Nhywyn. Ond ar y pryd, roedd gadael fy nheulu a'm cartref am y tro cyntaf yn brofiad anodd iawn.
Yna, o 1984 - 1988, cefais dair blynedd o hyfforddiant yn cwblhau Tystysgrif SRN yn Ysbyty'r Heath yng Nghaerdydd. Erbyn hyn wedi cyrraedd y ddinas ac yn mwynhau y profiad.
Beth oedd dy swydd gyntaf a lle?
Penderfynu aros yng Nghaerdydd fel staff nurse yn yr Heath am flwyddyn. Yn wir, dechrau magu hyder ac yn dechrau mwynhau fy mywyd newydd i'r eithaf.
Beth am swyddi eraill?
Mewn tua blwyddyn heb lawer o gynllunio o flaen llaw, cefais y cyfle i symud un cam ymhellach sef i Lundain a dechrau fel staff nurse yn Ysbyty Guy's. Wedi clywed llawer o hanesion am yr ysbyty yma gan Dr. Murfin gynt a fu'n gweithio yno yn y blynyddoedd cynnar o'i yrfa.
Er fy syndod, roeddwn yn mwynhau bywyd Llundain yn fawr a phenderfynu derbyn swydd fel Sister yn Ysbyty King's College tan 1992.
Dyma'r flwyddyn penderfynais gymryd y sialens o wynebu bywyd fel nyrs yn yr America.
Antur fach i fwynhau a blasu bywyd newydd am flwyddyn neu ddwy oedd y cynllun mawreddog yma. OND dyma fi, ddeng mlynedd yn ddiweddarach a minnau ar fin ymgartrefu yn Florida gyda Dave, fy ngwr.
Beth oedd y camau i ymsefydlu fel nyrs yn yr UDA?
Yn gyntaf, roedd rhaid ail eistedd fy nhysysgrif SRN sydd fel cael trwydded i nyrsio yn yr Unol Daliaethau. Yna, defnyddio asiant addas a derbyn fy swydd gyntaf yn Ysbyty Prifysgol De California.
Ymhen y flwyddyn, cefais y dewis i aros neu symud. Roeddwn wrth fy modd yn derbyn yr her o gael profiadau newydd a dechreuais fy antur o ddifrif yn yr America. Yn sicr, roeddwn yn mwynhau bob munud y tywydd, y bobl a'r ffordd hollol wahanol o fyw.
Rhwng 1992 a 2003 cefais y cyfle i weithio mewn chwe gwahanol ysbyty yn arbenigo yn yr Unedau Gofal Dwys - California i Georgia, Florida, Illinois, Michigan ac yn olaf i Detroit ger Chicago. Ond rydym ar fîn symud yn y dyddiau nesaf yn ôl i Florida lle mae fy ngwr wedi derbyn swydd newydd fel radiologist a minnau fel nyrs gymdeithasol. Mae'r cyfrifiadur mewn bocs!
Roeddwn innau gartref yn Nhywyn ar y pryd pan ddaeth y cynnig ac felly dychwelyd yn ôl i Detroit i ddechrau pacio. Wedi hen arfer erbyn hyn.
Braf fydd symud i'r ty newydd yn Florida sydd ar y pryd yn cael ei adeilau. Fydd wedi ei orffen ymhen saith/wyth mis GOBEITHIO!
Beth yw dy brif ddiddordebau?
Wedi byw yma nawr am unarddeg o flynyddoedd, fy mhrif ddiddordeb yw cadw fy Nghymraeg yn fyw. Rwyf yn siarad yn wythnosol ar y ffôn efo Mam a Dad a'm chwaer Nia ond ychydig iawn o gyfleon eraill sydd ar gael i mi ymarfer. Rwyf wrth fy modd yn derbyn y DAIL trwy'r post bob mis. Diolch Mam!
Rwy'n hoff o redeg yn fawr iawn hefyd, chwarae tennis ac yn ceisio meistroli Roller Blading' (Ddim yn siwr o'r gair Cymraeg).
Beth yw'r sialens fwyaf i ti ei wynebu?
Unwaith eto, ceisio cadw fy niwylliant a'm hiaith yn fyw yn fwy na dim. Treuliaf gymaint o amser ag sy'n bosib gyda'm teulu yn Nhywyn. Yn wir, roedd yn grêt bod gartref dros y Nadolig ac eto ym mis Mawrth.
Beth yw'r gwersi mwyaf wyt wedi dysgu mewn bywyd hyd yn hyn?
Ceisaf wneud yn fawr o bob dydd yn enwedig wrth weld mor frau yw bywyd yn fy ngwaith yn yr uned gofal ddwys.
Beth wyt ti'n gredu yw'r nodweddion pwysicaf mewn bywyd?
Yn wir, make the most of life dim ond eiliad sydd angen i'w golli.
Oes gennyt arwr neu rhywun sy wedi rhoi ysbrydoliaeth i ti?
Rhieni mwy na neb. Maent wedi bod yn gefn mawr i mi. Hyd yn oed pan oeddent ddim yn cytuno a phob penderfyniad i mi ei wneud maent bob amser yn gefn i mi hyd yn oed a minnau yn byw mor bell.
Oes hiraeth am dy gynefin?
Oes, bron bob dydd. Ond dwi' lwcus fy mod yn medru dod adref yn reit aml. Fe gollodd Dave, fy ngwr, ei rieni yn ifanc ac mae'n benderfynol o wneud yn fawr o'm rhai i. Pan fydd y ty wedi ei orffen mi fyddent draw yma yn aml gobeithio?
Cefais y profiad unigryw o ddod gartref i briodi fis Mehefin diwethaf a chael y pleser o rannu'r amser hapus yma gyda Ann Evans sef ffrind annwyl mam. Euthum a'm torch o flodau iddi wedi'r gwasanaeth Ni fydd byth yn angof'.