|
Fe ymddunodd â staff y clwb ar y pedwerydd o Ebrill, 1961
ac fe'i dyrchafwyd i fod yn ben tirmon yn 1980.
"Dw i'n cofio fy niwrnod cyntaf yn iawn," meddai Ritchie. "Roedd hi'n tywallt y glaw - a bwrw wnaeth hi am weddill yr wythnos."
Dim ond 17 mlwydd oed oedd o ar y pryd a'i fos yn y dyddiau hynny oedd Hugh Jones (Hughie Golff) o Dywyn.
Doedd yna ddim llaesu dwylo efo Hughie; glaw neu beidio mi fyddai'n siwr o ffeindio rhywbeth i'r hogia ei wneud.
Mae Ritchie yn cofio amdano'n
dda yn ei gadw i glirio cerrig o ran o'r cwrs tan ychydig funudau cyn iddo fynd allan i chwarae mewn cystadleuaeth.
"Fu yna ddim cymaint a chymaint o newid i'r cwrs yn fy amser i," eglurodd. Ritchie: "Fe fu tipyn o newid o gwmpas
y llain cyntaf ac, wrth gwrs, fe newidiwyd y pymthegfed llain yn llwyr.
Nal ym myd y peiriannau a ddefnyddiwn y digwyddodd y newid mwyaf."
Er enghraifft, pan gynhaliwyd Pencampwriaeth Golff Cymru yn Aberdyfi yn 1966 bu'n rhaid i'r tirmyn
dorri'r lleiniau drwy wthio'r peiriannau - a hynny bob bore dros gyfnod y bencampwriaeth. Chwe llain yr un i bob tirmon.
Mae Ritchie yn dipyn o giamstar ar y gem ei hun. Ei fantais ar hyn o bryd ydy 10 ond bu'n chwarae oddi ar 3 ar un amser.
Mae wedi ennill
Pencampwriaeth y clwb ddwywaith a
bu'n cynrychioli Clwb Aberdyfi gyda Meurig Lloyd yn Sialens Golff Rover un flwyddyn.
Talwyd sawl teyrnged iddo yn y cinio blynyddol wrth i'r clwb ei anrhegu am ei flynyddoedd maith o wasanaeth.
Mae'r DAIL yn dymuno'n dda iddo yn ei ymddeoliad.
 |