BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Marion Washington Jones Ailffurfio'r Côr
Tachwedd 2004
Mae Côr Bro Dysynni wedi ei ail ffurfio gyda Marion Washington Jones yn arwain fel y gwnaeth am flynyddoedd lawer ar ôl ffurfio'r côr yn yr wythdegau.
Fydd y côr ddim yn perfformio'n gyson, fodd bynnag, dim ond ar achlysuron arbennig.

Un o'r achlysuron hynny fydd perfformiad o The Armed Man gan Karl Jenkins, cyfansoddiad arbennig ar gyfer corau. Mae'n ymwneud ag effaith rhyfel ac mae wedi ei gysegru i ddioddefwyr argyfwng Kosovo. Bydd y perfformiad cyntaf rywbryd yn y flwyddyn newydd.

"Roedd mwyafrif o aelodau'r côr yn perthyn i'r hen gôr," eglurodd Marion. "Ond mae sawl aelod newydd wedi ymuno hefyd. Efallai y byddai Côr Bro Dysynni a Ffrindiau yn well enw arno erbyn hyn."

Cafodd yr hen gôr lwyddiant ysgubol dros y blynyddoedd ac fe enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon. 1989 oedd y flwyddyn orau un, fodd bynnag, gan i'r côr ennill yn y Genedlaethol yn Llanrwst ac wedyn yng Ngŵyl Gorawl Cymru yng Nghorwen.

Mae tua 50 o aelodau yn perthyn i'r côr ac un o'r hen ffyddloniaid fydd yn cyfeilio iddo eto, sef Tudur Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy