Ond beth ydy hanes yr Institiwt? Dyma i chi dipyn o'i hanes gan Owen Roberts, Frankwell Street, Tywyn.
Pan ddaeth y Rhyfel Mawr i ben yn 1918 fe aeth sawl tref a phentref ar draws y wlad ati i godi cofgolofnau a senotaffau er cof am y rhai a gwympodd yn y rhyfel.
Fe benderfynodd rhai cymunedau, fodd bynnag, fod angen rhywbeth mwy ymarferol ac fe aethpwyd ati i feddwl am gynlluniau fyddai o fudd j'r gymuned yn gyffredinol.
Yn Nhywyn, cafwyd dau gynllun.
Y cynllun cyntaf oedd codi ysbyty goffa yn Nhywyn i wasanaethu pobl Bro Dysynni a'r gwr y tu ô i'r syniad hwn oedd Dr J. Alban Davies a fu'n gwasanaethu yn y rhyfel ei hun.
Yr ail gynllun oedd codi neuadd goffa (Institiwt) fyddai'n cynnig nifer o adnoddau j'r cyhoedd.
Yn anffodus, methwyd dod i gytundeb pa un fyddai orau i Dywyn gyda'r canlyniad i ddau weithgor gael ei sefydlu ac yn sgil hyn fe gafwyd ysbyty ac institiwt.
Mae'n ddiddorol sylwi fod y ddau bwyllgor wedi eu rhannu yn ôl sefyllfa gymdeithasol/economaidd a daliadau crefyddol.
Toriaid oedd aelodau pwyllgor yr ysbyty oedd yn cynrychioli'r byddigions, aelodau'r Eglwys yng Nghymru ynghyd a'r Eglwys Gatholig ac aelodau'r Clwb Criced a'r Clwb Golff.
Prif symbylydd y grŵp dros yr Institiwt oedd Syr Henry Haydn Jones, yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd ac fe gafodd gefnogaeth y dosbarth canol o blith Y Rhyddfrydwyr a'r dosbarth gweithiol o'r Blaid Lafur.
Roedd y cyfreithwyr, yr athrawon, y siopwyr ac aelodau capeli'r anghydffurfwyr yn gefnogol iawn iddo hefyd ynghyd â'r Lleng Brydeinig a Sefydliad y Merched.
Gan mai'r Rhyddfrydwyr oedd wrth y llyw yn San Steffan ar y pryd fe gafodd Syr Haydn, oedd yn Rhyddfrydwr ei hun, dipyn o gefnogaeth a chyngor gan y Prif Weinidog, Syr David Lloyd George.
Yn wir, fe ddaeth y gwr bonheddig o Gricieth draw i Dywyn ar 29 Hydref, 1926 i agor yr Institiwt ynghyd ag adeiladau newydd yn yr Ysgol Uwchradd.
Derbyniwyd nifer o lyfrau i gychwyn llyfrgell yn y dref ac fe aeth prifathro Ysgol y Cyngor, Mr Pryce Williams, ati yn ei amser hamdden i'w catalogio ac i weithio cynllun benthyca.
Yn gynnar yn y 20au aethpwyd ati i sefydlu ymddiriedolaeth i ffurfio cyfansoddiad i'r Institiwt ac i ddarganfod beth oedd anghenion y gymuned.
Bu'r ymddiriedolaeth ar waith tan y 50au pan gymerodd Cyngor Dosbarth Trefol Tywyn yr awenau trosodd ar yr amod bod llawer o'r cyfleusterau i aros.
Yr amod bwysicaf oedd fod yr adeilad i'w gadw mewn cyflwr da ac y byddai ynddo Lyfrgell, Ystafell Ddarllen gyda phapurau dyddiol a chylchgronau, ystafelloedd pwyllgora, byrddau biliards, cegin a baddonau i ferched a dynion.
Ar yr un pryd roedd y Cyngor Dosbarth yn chwilio am gartref newydd gan fod yn rhaid iddo symud allan o Tradyddan yn Ffordd y Pier.
Apwyntiwyd gofalwr llawn amser, Mr Evans (Tarzan), fyddai hefyd yn gyfrifol am y llyfrgell a'r cyfleusterau eraill.
Yn ei anterth roedd yr adeilad yn gartref i tua 40 o sefydliadau a chai pob math o weithgareddau eu cynnal yma: gyrfaoedd chwist, jumble sales, pwyllgorau a chyfarfodydd blynyddol, cyfarfodydd cyhoeddus a rhai gwleidyddol.
Yma y deuai'r bobl i bleidleisio, i ddawnsio ac i fwynhau arddangosfeydd.
Un rheswm pam fod yr Institiwt mor boblogaidd oedd ei bod yn ysgrifenedig yn y gweithredoedd y byddai'r tâl llogi yn cael ei gadw ar lefel fforddiadwy.
Er enghraifft, pum swllt oedd tal llogi'r ystafell fechan a chweugain am yr ystafell fawr, pymtheg swllt am y ddwy efo'i gilydd.