|
Yn gynharach eleni bu farw Marion Eames. Roedd Marion yn un o'n prif nofelwyr cyfoes ac yn feistr ar y nofel hanesyddol, yn meddu ar y grefft o gyfuno y ffeithiol a'r dychmygol i greu campweithiau.
Pwy ohonom na gafodd ei gyfareddu gan hanes yr erlid fu ar y Crynwyr yn ardal Dolgellau yn yr ail ganrif ar bymtheg yn y nofel Y Stafell Ddirgel?
Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg ae fe'i teledwyd fel drama yn y ddwy iaith - dyna fesur ei llwyddiant.
Rai misoedd yn ôl gosodwyd dau hysbysfwrdd yn Llwyngwril. Mae'r
cyntaf i'w weld ger y fynedfa i fynwent y Crynwyr ar dir a elwir yn Bryn Tallwyn, a'r ail y tu allan i ffermdy Llwyn Du.
O ddarllen y ddau fwrdd ceir dipyn o hanes y Crynwyr o'r dyddiau cynnar pan ddaeth George Fox ar daith drwy'r rhanbarth hwn o Gymru. Dywedir i'r fynwent gael ei hagor yn y flwyddyn 1664, wedi i'r tir gael ei roi gan y brodyr Humphrey oedd yn ffermio Llwyn Du.
Deallwn mai rhan o'r prosiect "Teithiau Hanesyddol Cristnogol Meirionnydd" yw'r gwaith hwn. Mae cylch Dolgellau yn trefnu taith o gwmpas yr adeiladau sy'n rhan o'r nofel Y Stafell Ddirgel, ee., Bryn Mawr, Tyddyn y Garreg, Dewisbren Uchaf a Dolgun, ac fe
benderfynwyd cynnwys y ddau lecyn yn Llwyngwril sydd ynghlwm wrth hanes Crynwyr y cylch.
Mae'n deg dweud y bydd unrhyw gyhoeddusrwydd fel hyn yn gymorth i'r diwydiant twristiaeth; mae'n debyg hefyd y gwyr llawer o'n darllenwyr am Americanwyr yn dod yma i geisio gwybodaeth am eu cyndadau.
Mae ardal Trawsfynydd yn canolbwyntio ar hanes y Sant John Roberts, a'r Bala ar hanes Mari Jones.
 |