|
Ers peth amser bellach, y gri yw nad oes digon o blismyn i'w gweld yn y gymuned. Ateb y Llywodraeth i hyn oedd apwyntio Plismyn Cymunedol a'r plismon hwnnw ym Mro Dysynni ydy'r heddwas Ifor Williams. Mae wedi bod yn ei swydd ers bron i dair blynedd erbyn hyn ond bu'n heddwas yn Nhywyn ers 23 o flynyddoedd. Beth yn union ydy gwaith Plismon Cymunedol? "Gweithio mewn partneriaeth efo sefydliadau a phartneriaethau eraill ydy'r gwaith bennaf," eglurodd Ifor. "Hynny ydy, trefnu efo ysgolion, er enghraifft, ar y ffordd saffaf i fynd i'r ysgol." Mae'n naturiol, felly, ei fod yn treulio llawer o'i amser yn ysgolion y fro yn ogystal ag yn y clybiau ieuenctid. Mae'n taro i mewn i Ysgol Uwchradd Tywyn bob bore Gwener i roi cyfle i'r disgyblion yno drafod unrhyw fater efo fo. Pan alwodd yng Nghorris i holi'r plant yno pam eu bod yn mynnu chwarae ar y stryd yn hytrach nag yn y cae chwarae, yr ateb gafodd oedd fod yr offer yn y cae chwarae i gyd wedi torri. Yn sgîl yr ateb hwn, aeth Ifor ati rhag blaen i drefnu bod offer y cae chwarae yn cael ei drwsio. Chwaraeodd ran flaenllaw hefyd yn yr ymdrech i gael parc sglefrio i Dywyn a threfnodd i osod camera CCTV ar y lanfa yn Aberdyfi i gadw fandaliaid draw. Bydd hefyd yn galw mewn clybiau i roi sgyrsiau. "Mae o'n waith caled," meddai Ifor, "ond mae'n waith sy'n rhoi boddhad mawr i mi." Nid Ifor yw'r unig un sy'n cael ei foddhau canys ar ddiwedd y mis fe'i gwahoddwyd i ginio arbennig yng Nghaernarfon i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Cymunedol oddi wrth y Dirprwy Brif Gwnstabl, Clive Wolfendale, ac aelodau o Ffederasiwn Awdurdod yr Heddlu. Wythnos yn ddiweddarach, fe deithiodd i Lundain i gyfarfod i ddewis Swyddog Cymunedol y Flwyddyn. Cafodd y cyfarfod hwn ei gadeirio gan Nick Ross, cyflwynydd y rhaglen deledu Crime Watch. Cylchgrawn swyddogol yr heddlu, The Lanes Review Magazine, oedd yn gyfrifol am drefnu'r cyfarfod. Mae'r DAIL yn llongyfarch Ifor am yr anrhydedd a ddaeth i'w ran ac yn falch o weld gŵr sy'n gydwybodol iawn ynglŷn a'i waith yn cae1 ei gydnabod gan y pwerau oddi fry. Mae'r DAIL yn llongyfarch Ifor am yr anrhydedd a ddaeth i'w ran ac yn falch o weld gŵr sy'n gydwybodol iawn ynglŷn a'i waith yn cael ei gydnabod gan y pwerau oddi fry.
 |