BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Y neuadd newydd Balchder yr Aber
Mawrth 2005
'Neuadd newydd yn cymryd siâp'
Mae'n sicr fod llawer o bobl yn Abergynolwyn yn credu na welsan nhw byth mo'r neuadd bentref newydd.
Efallai fod adegau pan yr amheuais innau hefyd. Fel yr adeg hynny pan ddaeth un o weinyddwyr cronfa arbennig (a fydd yn ddi-enw) i ymweld â ni, rhoi'r argraffiddo gael ei blesio'n fawr gyda'n cynlluniau, a'n cynghori i wneud cais am £200,000. Gyda hyder dealladwy y gwnaethom y cais - a chael ein troi i lawr!

Er gwaethaf hynny a rhwystrau eraill, glynodd pwyllgor y neuadd at y dasg.

Nawr, fel y gwelwch o'r llun, mae'r neuadd yn cymeryd siâp. Neu'n well fyth, ein 'canolfan'.

Gan fod 'neuadd bentref' yn aml yn creu darlun yn y meddwl o adeilad wedi ei esgeuluso, ar agor ambell noson yr wythnos yn unig. Rydyn ni am i'n hadeilad ni fod yn galon i'r gymuned, ar agor drwy'r dydd bob dydd.

Yr atyniadau fydd caffi (gyda theras), swyddfa bost rhan-amser, cilfach gwybodaeth twristiaid, cyfrifiaduron, (gyda chyswllt band-llydan, gobeithio) ac awditoriwm newydd syfrdanol lle byddwn yn trefnu sioeau a chyngherddau'n gyson. Ac wrth gwrs, fel yn yr henneuadd, fe fydd y ganolfan yn gartref i'r holl glybiau a grwpiau lleol.

Mewn ffaith, credwn y bydd gan Abergynolwyn yn fuan un o'r canolfannau cymdeithasol gorau yng Nghymru.

Cynlluniwyd ein canolfan wych gan Selwyn Jones o Pensel Cymunedol yn Llanrug, Caernarfon. Ac roeddem wrth ein bodd yn cael cynnig y contract i gwmni lleol, Chesworth Brothers, sydd wedi cyflogi is-gontractwyr lleol.

Mae'r cyfan yn cyd-fynd â'n dyhead i wneud i'r ganolfan newydd fod o fudd i'r economi leol yn ogystal ag yn gymdeithasol.

Dywed Michael Chesworth, sydd yn arwain y tîm adeiladaeth, efallai y byddwn yn barod i agor ym Mehefin, mewn pryd ar gyfer prysurdeb yr haf, ac wrth gwrs, y carnifal blynyddol.

Felly, unwaith y byddwn ar agor, dewch am dro i weld a mwynhau canolfannewydd Abergynolwyn drosoch eich hun.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy