|
Tra'n gwneud hyn fe'm trawyd gan yr holl wrthdaro diwylliannol sydd yn wraidd i'r cyfan. Mae'r newyddion yn llawn trafodaeth am y gwrthdaro rhwng y Gorllewin ac Irac, rhwng yr hen a'r ifanc neu rhwng Israel a Phalestina. Yn Bradford bu gwrthdaro rhwng carfanau y gymdeithas aml-hiliol yno ac yn fy ngwaith bob dydd, dôf ar draws yn gyson y gwrthdaro rhwng y rhai sy'n ceisio hyrwyddo y diwylliant Cymraeg yn yr ardal a'r rhai sy'n gweithredu yn feunyddiol ar sawl lefel er mwyn bygwth dyfodol a ffyniant addysg cyfrwng Cymraeg y De-ddwyrain. Mae'r rhai sydd yn elyniaethus i unrhyw awgrym o wladgarwch yn defnyddio'r label "cenedlaetholdeb" fel modd o feirniadu a thaflu sen ar yr unigolion sydd yn ymgyrchu dros eu hetifeddiaeth. Fel athro hanes rwyf yn fwy nag ymwybodol o beryglon cenedlaetholdeb a chanlyniadau gorfodi gwledydd eraill i ddilyn eich trywydd chi yn hytrach na'u dyheadau cynhenid. Onid yw y gwrthdaro rhwng yr UDA ac Irac yn adlais o hyn? Eto wedi dweud hyn mae dathliadau diwrnod ein Nawdd Sant yn enghraifft o'r ffordd mae balchder yn medru bod yn rym adeiladol a chynhyrchiol yn hytrach na phwer dinistriol. Nid yw'n syndod i chi glywed fod gwladgarwch a brogarwch yn bwysig ac yn fuddiol i mi. Cynigodd Bro Dysynni nifer o bethau i fab John R.I. wrth iddo dyfu, astudio a chwarae pêl-droed yn yr "Aber and District". Daw gwreiddiau person alltud yn ddyfnach wrth iddo deithio oddi cartref Cynigant gadernid ac angor wrth wynebu sefyllfaoedd ansicr. Yn yr un modd mae seiliau cadarn diwylliant arbennig yn cynnig cynhaliaeth wrth wynebu her ymerodraeth diwylliant arall. Mae hyd yn oed y Ffrancwyr yn ymladd dylanwadau America ar eu hiaith. Nid oes angen ailadrodd y bygythiad i'r Gymraeg, nac ychwaith y bygythiad i'r elfennau hynny sydd wedi clymu cymdeithas at ei gilydd - y sment sydd yn gwneud cymdeithas yn fwy na chyfanswm yr unigolion sydd yn byw a gweithio ynddi. Dangosodd ymateb Efrog Newydd i hunllef 9/11 beth all cymdeithas mor gystadleuol ac unigolyddol â honno ei chyflawni drwy dynnu ei thrigolion at ei gilydd. Neges Gwyl Dewi Mae'r neges fod cydweithio, cyd-dynnu a pharchu eraill yn un sydd yn cael ei throsglwyddo yn gyson yn fy ysgol ym Mro Morgannwg a thybiaf ei bod yn neges briodol i Gymru ar Ddydd Gwyl Dewi Sant. Mae modd bod yn Gymry balch a Chymraeg yng nghanol cynnwrf a datblygiadau'r byd modern. O warchod a phwyso ar hanfodion a chyfoeth sylfeini ein cymdeithas nid oes dim byd yn rhwystro ein Cymreictod rhag bod yn Gymreictod allblyg a hyderus. Nid yw cariad at Gymru ac at ei hiaith yn golygu magu culni a mewnplygrwydd. Mae Cymry Cymraeg llwyddiannus i'w cael ar hyd a lled y byd. Dengys llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yma yn y De ddwyrain a chanlyniadau'r cyfrifiad diweddar bosibiliadau'r agwedd hyderus ac iach yma. Mae coeden sydd â gwreiddiau cadarn ym medru tyfu'n uchel a lledaenu ei changhennau yn eang. Credaf yn gryf fod Dewi Sant yn hollol gywir pan gyhoeddodd: Cedwch y ffydd Byddwch lawen a Gwnewch y pethau bychain. Mae'r anogaeth yma inni gredu yn ein hunain fel Cymry, i gredu ym mhwysigrwydd agwedd bositif tuag at ein diwylliant a diwylliannau pobl eraill, ac i gredu yng ngwerth gweithredu cyson o ddydd i ddydd er lles pobl eraill. Mwynhewch eich dathliadau a "Byddwch Lawen!" Dr. Dylan Elfyn Jones
 |