Roedd yr ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 350 oed.
IBore Iau, 9 Gorffennaf, roedd hi'n amlwg bod rhywbeth mawr ar droed ar gae'r
ysgol.
Roedd pabell enfawr wedi ei chodi dros nos.
Bu'r plant wrthi'n brysur yn addurno'r babell a baneri lliwgar i sicrhau ei bod yn edrych yn fendigedig ar gyfer yr achlysur.
Cafodd waliau yr ysgol eu haddurno gyda nifer helaeth o luniau hefyd.
Roedd yn rhaid i'r plant ymarfer yn gyson er mwyn dysgu nifer o ganeuon traddodiadol i ddiddanu'r holl gyn-ddisgyblion a staff fyddai'n mynychu'r dathliad.
Cyrhaeddodd y diwrnod mawr, dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf, a oedd yn achlysur arbennig iawn yn hanes yr ysgol, a dweud y gwir, yn hanes addysg yng Ngwynedd.
Roedd hi'n ddiwrnod hapus iawn yn dathlu'r gorffennol a'r presennol.
Mae'n rhaid bod y Pennaeth, Miss Heledd, wedi bod yn gweddio'n daer am dywydd sych gan i'r haul dywynnu ar ddechrau'r prynhawn.
Daeth llu o gyn-ddisgyblion, staff a ffrindiau'r ysgol i rannu'r diwrnod.
Pawb yn hel atgofion a chwerthin ar hen luniau dros baned a chacen.
Bu rhai yn chwilio am eu henwau ac enwau aelodau o'u teulu yng nghofrestr yr ysgol.
Cafodd eraill gyfle i ddarllen am ddigwyddiadau'r ysgol yn y llyfrau log.
Braf oedd gweld cymaint wedi dod i'r dathliad yn enwedig y criw hynaf o'r cyn-ddisgyblion.
Am bedwar o'r gloch, daeth y glaw!
Ond diolch byth roedd pawb yn glyd yn y babell yn barod am yr adloniant.
Cafwyd gair hwyliog gan Mr Carroll Hughes yn sôn am droeon trwstan ac adrodd straeon am rai o'i gyd-staff.
Yna, daeth hi'n amser am wledd o ganu gan y plant.
Roeddent i gyd mewn gwisgoedd Oes Fictoria ac yn edrych yn werth chweil.
Wedyn, ymunodd pawb i ganu "Penblwydd Hapus", a chanwyd y gloch i ddynodi'r garreg filltir.