BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Clwb ieuenctid Llwyngwril Clwb ieuenctid
Awst 2008
Ym Mro Dysynni, fel llawer ardal arall yn y sir, mae ein pentrefi yn gallu ymffrostio yn y ffaith fod gennym Glybiau leuenctid.
Er drwg er da mae rhain yn ganolfannau i'r ieuenctid gyfarfod unwaith neu ddwy yr wythnos i gymdeithasu, ymlacio a mwynhau eu hunain.

Mae tua 40 o aelodau yn Llwyngwril yn cymryd rhan mewn rhaglen amrywiol o chwarae pŵl, i sgythru gwydr a theils, i chwarae tennis bwrdd, i greu patrymau ar lechen neu wydr plaen.

Yn sicr mae llawer rhiant wedi derbyn anrheg wedi ei bersonoli gydag enw neu gyfarchiad ar wydryn ail-law!

Cynllunir cardiau adeg y Dolig, y Pasg, dydd Ffolant a Suliau y Mamau a'r Tadau, ac wrth gwrs ar gyfer Noson Calangaeaf bydd pawb wrthi yn creu lanterni pwmpen.

Bydd pawb yn troi llaw at ddanteithion hawdd eu gwneud yn y gegin, prydau bach o lysiau a ffrwythau, a smwddis i'w hyfed.

Yn unol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol ceir sesiynau mwy ffurfiol am beryglon gor-yfed, ysmygu a cham-ddefnydd o gyffuriau.

Cynhelir amryw o gystadleuthau clybiau yn lleol, ardal a sirol, ac mae'r clwb wedi profi amryw lwyddiannau ym myd y campau, yn ogystal cyn yr Ŵyl lle y gall aelodau gystadlu mewn gwaith llwyfan, crefft, cyfansoddi limerig - i enwi ond rhai gweithgareddau.

Arweinydd ymroddgar a brŵd y Clwb yw Garth Jones, sy wedi bod wrth y llyw ers blynyddoedd maith.

Bydd y syniadau am raglan y tymor yn dod o'r aelodau ac mae Garth bob amser yn barod I gydnabod ymddygiad parchus a chefnogaeth yr ieuenctid.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy