BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Sioned, Siôn, Angharad a Robat Clwb Ffermwyr Ifanc Bryncrug
Ebrill 2004
Fel y gwelwch bu'r wythnosau diwetha' 'ma yn rhai prysur iawn.
Cafodd Cwis y Sir ei gynnal yn Fronolau, i drio darganfod pa ardal o Feirionnydd oedd â brêns yn eu penne, gyda'r cwisfeistr, Rhidian Mason, yn holi lliw ein perfedd! Yn anffodus ni ddaeth Bryncrug i'r brig ar y noson. Mae'n rhaid bod yr aelodau yn gweithio llawer rhy galed yn yr ysgol yna.

Hoffwn ar ran y clwb ddiolch i Mair, Fronnewydd am gynnal noson yn sôn am ei gwaith yn ymwneud gyda gyrfaoedd yng Nghymru. Cawsom wahanol weithgareddau difyr oedd yn gwneud i ni feddwl llawer.

Ar ôl hir drefnu am leoliad ein cinio eleni, aethom i Westy Fronolau, Dolgellau. Roedd hi'n noson ddigon hwyliog rhwng pob dim. 'Holed pob dyn ef ei hun' (a'r merched hefyd o ran hynny)!

Cawsom noson ddifyr iawn o fewn y clwb gyda'r milfeddyg, Edward Williams, Dolaugwyn yn sôn am y gwahanol afiechydon sydd yn effeithio'r byd amaeth.

I ysgafnhau dipyn ar weithgareddau'r Sir, aeth llond Peugeot 406, 2.0i, Turbo, Silver, Luxury, Estate i 'steddfod dafarn yng Nghlwb Golff Bala. Does neb tebyg i Meyrick am fyta orenjis a neb gwell na Tudor am eu pilio nhw. Gwyliwch allan am Edwin Nant ar y rhaglen nesaf o Wawffactor, mae'n siwr o greu argraff! Does neb tebyg i Angharad am fwyta crisps, ond ddim o baced y tro yma?! Daeth deuawd swynol Siôn a Angharad i'r safle cyntaf, er mai Siôn oedd y syprano, ac Angharad yn faswr, crefft anodd iawn ei meistroli. Er mai dim ond criw bach wnaeth lwyddo i fynd, cawsom lond bol o chwerthin a llwyddo i ddod yn ail o fewn y sir. ('drwy ddirgel ffyrdd').

Taith ddirgel wedi ei threfnu gan Ruth a Janet oedd yn y clwb yr wythnos ganlynol. Cychwyn o Fryncrug, mlaen drwy Dalyllyn, troi i'r chwith yn Cross Foxes, i'r dde am Brithdir, ac ymlaen i'r Bala, 'n de wa! Cyn cyrraedd pen y siwme yn yr Ewe-phoria, yn Llangwm, gyda Aled Owen.

Cawsom arddangosfa cŵn a defaid a phryd o fwyd blasus iawn cyn dychwelyd adref. Cafwyd cynrychiolaeth dda o'r clwb yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Sir, yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau. Llwyddodd y tîm dan 21 i ddod yn 1af a dan 26 i ddod yn 3ydd. Dewisiwyd Edward a Angharad, Caerberllan i fynd ymlaen i gynrychioli'r sir yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae criw bach o fewn y clwb, sef Sioned, Angharad, Robat, a Siôn, wedi bod yn ceisio dysgu drama ar gyfer cystadleuaeth dramâu y Sir yn Nhrawsfynydd gyda Hyw, Marchlyn yn ceisio ein dysgu. I gychwyn roedd rhaid cael gafael mewn 'props', prynu 'sideboard' am £1 yn Nolgellau. Cael gwely gan Dyfrig Farmers Marts, oedd wedi pasio ei 'sell by date', (y gwely dim Dyfrig!), Twin Seater Seti o Erwfaethlon. Sgrîn o Benmaendyfi, gyda manion o fanhyn a fandrew!

Cawson ymweliad un noson gan actor pur enwog i roi Manon ar hwyl gyda'r coluro. Anodd iawn yw gwneud wynebau pedwar mor dlws i edrych oddeutu'r trigain oed, er hyn llwyddodd Manon yn wych. Rhaid oedd certio yr holl offer i Drawsfynydd noson y gystadleuath. Tudor oedd yng ngofal hyn gyda'r Land Rover a'r Trailer Ifor Williams yn llawn ir ymylon. Cwmtirmynach ddaeth i'r brig ar y noson gyda Bryncrug yn ail, agos iawn, iawn, iawn.. .iawn! Llongyfarchiadau i Angharad (Sera) ar ennill tlws am yr actores orau ar y noson. Mae'n siwr fod o wedi bod o help mawr iddi glosio dan y dwfe at Gruffudd John!

Perfformiwyd 'Gwirion Hen' yn Llanegryn yn ddiweddar, fel y gŵyr y rhai ohonoch ddaeth i'n cefnogi. Y nos lau ganlynol, roeddem wedi cael ein gwahodd i Gwmtirmynach i berfformio. Cychwyn o Minffordd am 6yh, a hithau yn dechrau bwrw eira. Gwaethygu yn y Brithdir, erbyn cyrraedd Bala, roedd hi'n gwynnu yn arw, a phenderfynu troi am adre, ar ôl i Sioned a Siôn gael ffeit peli eira tu allan i'r Ganolfan Hamdden!

Diolch i bawb sydd wedi ein helpu an cefnogi dros fisoedd y gaeaf. Hwyl a ta-ra tan toc!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy