|
Mae sawl tro ar fyd wedi bod yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf fel y gellwch ddychmygu. Un o'r newidiadau amlycaf yw'r defnydd a wnawn erbyn hyn o'r dechnoleg fodern. Mae gallu defnyddio'r cyfrifiadur wedi gwneud mwy na hwyluso pethau i ni: mae'n debyg ei fod wedi ymestyn oes ein papur bro. Ers blynyddoedd bellach mae nifer y bobl sy'n helpu i gyhoeddi'r papur wedi gostwng, yn gymaint, felly, nes ein gorfodi i ddileu noson y gosod a throi at dechnoleg. Mae'n debyg mai dyna fyddai wedi digwydd hyd yn oed pe bai'r un nifer yn cyfarfod ar y bedwaredd nos Fawrth i roi'r papur wrth ei gilydd. Serch hynny, rhaid cyfaddef ein bod wedi colli noson gymdeithasol wirioneddol ddifyr wrth ddisodli pobol efo'r cyfrifiadur. Na, dydy pethau ddim yn mynd yn haws - ond rydym yn dal i fynd. Yn wir, cawsom hwb fach yn ystod y misoedd diwethaf drwy i rai o bobl ifanc y fro ymuno â'r tîm a gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i sicrhau dyfodol y papur. Serch hynny, mae angen i fwy o ieuenctid y fro ymuno â'r tîm. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau y bydd Dail Dysynni yn goroesi am chwarter canrif arall. Yn y cyfamser dymuna'r criw bach ohonom sy'n cyfarfod yn rheolaidd ar y drydedd nos Fawrth o'r mis ddiolch o galon i bawb sy'n cynorthwyo mewn unrhyw fodd i gyhoeddi'r papur. Gadewch i ni lawenhau: rydym yn dathlu penblwydd arbennig. Ymfalchïwn! A chofiwch :Er gwaethaf pawb a phopeth Ryn ni yma o hyd! CROESO Rhan o gywydd y diweddar Merfyn Jones ar enedigaeth y Dail yn 1979. Heddiw "baban" a anwyd; Nid rhyw fwbach llegach llwyd; Di-lestair gowlaid lysti Heb un nam yw'n babi ni. Heb angen pram na mamaeth; Hwn nid yw flin; nid yf laeth; Hynod grwt, un llon di-gri, Di-swn yw Dail Dysynni. (Ni raid gwarchod na chodi Yn y nos i'n "baban" ni). Un o frid hen dderi'r fro Yn ein dolydd sy'n deilio. Gresyn fai bod heb groeso I rywun del fel y fo! Eiddunwn i hwn bob hwyl, A hygar hynt ddiegwyl. Llanwer ei ddail â lluniau O'n pobl ac â chlecs ein pau. Tad y Dail Y diweddar R. Emyr Jones (uchod) y gwr a wnaeth y fwyaf i sefydlu'r Dail ac i sicrhau ei lwyddiant dros y blynyddoedd. Yn ogystal â bod yn olygydd am flynyddoedd lawer bu hefyd yn ysgrifennydd ac yn ohebydd dros dref Tywyn.
 |