BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Lt. Col. Lawrence Smith a Col. Colin Conning yn mwynhau cwmni Maer Tywyn, Eileen Ellis. Melys Cwrdd â Hen Gyfeillion
Mai 2004
Ar ddechrau mis Ebrill daeth bron i hanner cant o gyn-filwyr at ei gilydd i fwynhau aduniad a allai ddatblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol.
Dyma aelodau o gatrawd y Junior Leaders oedd wedi eu lleoli yng ngwersyll Tonfannau yn ystod y 50au a'r 60au. Roedd un ohonynt wedi teithio o Ganada a'r llall o Sbaen er mwyn bod yn y dathlu.

Ar fore Sadwrn, y trydydd o Ebrill, aeth tua dwsin ohonynt i fyny i gopa Cader Idris gan gario gyda hwy faner y gwersyll. Yna, gyda'r nos, daeth pawb at ei gilydd i wledda a hel atgofion yng ngwesty'r Corbett Arms yng nghwmni Maer Tywyn, Eileen Ellis.

Dau o'r gwahoddedigion oedd Roy Rowlands a Glyn Kirkham, oedd yn hyfforddwyr gyrru yn y gwersyll ar y pryd "Mae cyswllt y fyddin â Thywyn yn mynd yn ôl cyn belled â'r ddeunawfed ganrif," eglurodd Roy, "ac roedd garsiwn yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd." Yna, fe gaewyd y prif wersyll yn ystod y 50au cyn ei ail agor ar gyfer y Junior Leaders. Hufen milwyr ifanc Prydain oedd y rhain oedd wedi eu dewis yn fwriadol ar gyfer eu hyfforddi i fod yn arweinyddion milwrol.

Roedd cau'r gwersyll ar ddiwedd y 60au yn ergyd fawr i'r ardal gan i 269 o bobl leol golli eu swyddi. Y tro diwethaf i'r gwersyll gael ei ddefnyddio oedd i gartrefu y ffoaduriaid o Uganda ar ddechrau'r 70au. Ers hynny, mae popeth wedi diflannu a'r tir wedi ei adfer i ddefnydd amaethyddol.

Un arall a fu'n gweithio yn y gwersyll oedd Deanna Angell o Fryncrug a bu'r aduniad yn gyfle arall iddi gyfarfod â hen ffrind, Carol Moore sydd bellach yn byw yng Nghaerlŷr. Mae'r ddwy wedi cysylltu â'i gilydd yn gyson ers cau'r gwersyll ond, fel yr eglurodd Deanna: "Mae'n braf iawn cael cyfarfod â hen gyfeillion ar unrhyw amser." Os caiff trefnwyr ad-uniad eleni eu dymuniad, fe gânt gyfarfod yn flynyddol o hyn allan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy