Ddydd ei angladd fe'i disgrifiwyd fel cawr, Cymro a chyfaill - a gallesid yn hawdd fod wedi ychwanegu: cymwynaswr, gwr bonheddig, dyn busnes, ffermwr a noddwr ei filltir sgwâr. Troediodd lwyfannau'r byd ond deuai'r wên i'r wyneb bob tro wrth droi yn Cwrt am Benmaenbach a blas y mygyn fel pe'n gwella wrth nesu nôl at y ty. Dechreuodd ganu yn blentyn yng Nghorris ac yn ôl yr hanes roedd wedi ennill dros hanner cant o wobrau cyn symud i Bennal yn ddeuddeg oed. Yn fuan wedyn, ac yntau ar ei ffordd i'r Ysgol Sir yn Nhywyn, clywodd Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth y baswr bach yn canu ar y trên a dyma ddweud wrtho i ddod ato i'r dre pan fyddai yn bymtheg oed.
A dyna a wnaeth - a phrofiad yr athro yn gwneud yn siwr fod y llais yn cael ei ddatblygu'n ofalus. Bellach, roedd dyddiau'r ysgol drosodd gyda'r caneuon yn cael eu dysgu rhwng cyrn yr aradr ac yn y beudy cyn i Dic ymddangos o flaen ei athro gyda'r nos. Trefnydd cerdd Sir Feirionnydd ar y pryd oedd John Hughes (brawd Arwel Hughes y BBC) a ddaeth i Benmaenbach yn union swydd i geisio perswadio Dic i ddilyn cwrs cerdd yn y coleg yn Llundain.
Aros ar y fferm fu'r penderfyniad a chanolbwyntio ar ganu mewn Eisteddfod ac ambell Test Concert gyda llwyddiant yn dilyn yn fuan. Ef oedd y cyntaf erioed i ennill y Rhuban Glas ddwywaith gyda'r cyntaf yn dod yn Aberystwyth yn 1952 pan ganodd "Y Dymestl" - dewis arwyddocaol iawn gyda'r gwynt a'r glaw yn rhuo y tu allan. Profodd ym Mhwllheli, dair blynedd yn ddiweddarach, nad lwc oedd Aberystwyth pan gafodd y Rhuban yn ei law am yr ail dro.
Cyfnod hir wedyn fel prif faswr Cwmni Opera Cymru a chael ei gadw'n brysur mewn cyngerdd ac oratorio gan ymddangos yn gyson gyda chorau mwya'r cyfnod. Ymddangosiadau cyson yn yr Albert a'r Festival Hall hefyd gan gynnal ei raglenni ei hun ar y BBC ac ITV. Yn y cyfnod hwn troediodd y ffermwr diymhongar lwyfannau'r byd a phan fyddai yn cyflwyno ei ganeuon yn yr iaith Saesneg hawdd fyddai i ddieithryn gredu iddo dreulio cyfnod yn Rhydychen - a byddai ei Gymraeg yr un mor raenus.
Rhaid peidio ag anghofio, serch hynny, wrth feddwl am yr oratorios ddaru'r llais mawr feistroli dan faton meistri'r cyfnod, pobl fel Syr Charles Groves ac eraill. Bydd enw Richard Rees i lawer ohonom ynghlwm wrth "Y Dymestl", "Y Marchog", "Brad Dynrafon" ac "Aros Mae'r Mynyddau Mawr".
O gofio'r holl weithiau y bu'n rhan ohonynt, anodd ydy didoli ond, o edrych yn ôl ar y rhestr faith, mae'n debyg y byddai'r canlynol yn go agos i'r brig:
The Erl King (Schubert)
Y Prolog i Pagliacci (Leon Cavallo)
II Lacerato Spirito (Verdi)
Non Piu Andrai (Mozart)
Honour and Arms (Handel)
Thus Saith The Lord (Handel)
Nid rhyfedd ei fod cystal actor pan gymerai ran yn nramâu'r pentre o gofio iddo droedio'r llwyfan mewn operâu fel The Barber of Saville, The Bartered Bride a King Olaf. Ychydig ohonoch efallai sydd hefyd yn sylweddoli ei fod yn adroddwr a chyda'r cof aruthrol a'r llais arbennig, pleser o'r mwyaf oedd eistedd i wrando arno.
Ni ellir cloi teyrnged fel hon i Dic heb restru rhai o'r cantorion y bu'n rhannu llwyfan gyda hwy dros y blynyddoedd: Stuart Burrows, Richie Thomas, Margaret Lewis Jones, Beti Jones, Nancy Richards, Trixie Walters, Janet Baker, Euryl Coslett, Tano Farrendinos, Glenys Dowdle, Lynne Richards, Kenneth Bowen, Iona Jones, Joan Chesterton, Elizabeth Vaughan, Dai Jones, Elwyn Edwards a Peggy Williams.
Yn aml, byddai'r gwybodusion yn cyfeirio ato fel llais perffaith a hawdd credu hynny wrth wrando ar ei ddatganiad mewn oratorios fel The Creation, Elijah, The Messiah, Judas Maccabeus ac eraill. Trwy lwc a bendith fe wna tâp, ffilm a record gadw peth o'r dalent fawr yma yn fyw am flynyddoedd i ddod.
Ymysg y dyrfa anferth a ddaeth i Bennal ar ddydd ei angladd i dalu'r gymwynas olaf roedd nifer eraill o enillwyr y Rhuban Glas ac fe roddodd y gwasanaeth a'r canu ryw urddas arbennig i'r achlysur. Yn yr amlosgfa hefyd, yn ôl dymuniad Richard, cafwyd cefndir i'r gwasanaeth yn swn cymalau o Requiem Mozart oedd yn gweddu yn berffaith i dawelwch y llais sydd bellach wedi ein gadael.
Colled cenedl - ond yn bennaf colled y teulu a chydymdeimlwn o waelod calon â Menna, Aled a'r teulu, Gwilym a'r teulu a'r perthnasau oll.Erys yr atgofion ar adenydd amser a bydd llawer yn sisial, yn swn y glaw a'r gwynt:
Fe glywaf, fe glywaf y llais.
Charles Arch