Bu gwasanaeth yn amlosgfa Aberystwyth fore Llun, 27 Ebrill ac yna yn y pnawn wasanaeth coffa yng Nghapel Tabernael Dolgellau lle bu'n gwasanaethu fel blaenor am nifer helaeth o flynyddoedd.
Yn y gwasanaeth hwn clywsom berlau o deyrnge¬dau.
Wedi derbyn ei addysg ym mro Dysynni a Choleg Milfeddygol Lerpwl
dechreuodd ei yrfa fel milfeddyg yn Nolgellau yn 1944 gyda Defi Wyn Owen Braichsaint, a chofiaf ef yn galw fel bo'r angen i'm cartref pan oeddwn yn blentyn ysgol.
Parhaodd yn filfeddyg yn Nolgellau tan ei ymddeoliad. Petai anifail yn sâl neu wedi cael damwain - ac os nad oedd gobaith ei wella byddai'n onest iawn yn rhoi ei farn, cyn annog
neb i fynd i unrhyw gostau.
Byddai'n
galw'n rheolaidd a'r feddygfa hyd y diwedd er mwy'n cadw yn y pethau, a chael sgwrs gyda'i hen gwsmeriaid a 'rhoi'r byd yn ei le' fel petai.
Bu'n cynrychioli sawl cymuned wledig i'r de o Ddolgellau ar Gyngor Sir Gwynedd hyd at 1999.
Bu'n Gadeirydd y Cyngor yn 1979/80.
Yn ogystal bu'n
Gadeirydd Pare Cenedlaethol Eryri am 25 mlynedd ac mae sawl esiampl o'i
gadernid a'i ffordd unigryw ei hun o
ymdrin a swyddogion ac aelodau.
'Roedd yn ffigwr cenedlaethol mewn sawl cyfeiriad ond yn Feirionwr i'r carn.
Bu'n Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 1980 a chofiaf yn dda iddo wahodd
gwahanol gorau o Feirionnydd i fynd lawr i'r Sioe i ddiddanu'r dyrfa.
Dengys hyn gymaint ei benderfyniad o roi sylw cenedlaethol teg i hyd yn oed gorau o
Feirion.
Ers pan sefydlwyd Coleg Meirionnydd Dolgellau, ac yn ddiweddarach Coleg Meirion Dwyfor - gan gynnwys Pwllheli a Glynllifon, ef fu'r unig Gadeirydd ar y Llywodraethwyr.
Fel un o'm dyletswyddau'r llynedd cefais y fraint o dderbyn gwahoddiad i gyfarfod anrhegu myfyrwyr Glynllifon ac yno gwelais y balchder oedd yn llygaid John Tudor o weld llwyddiant y myfyrwyr.
'Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn pobl ifanc.
Byddai'n hoff iawn o ddadlau gan ddiweddu pob dadl gyda'i wen bryfoclyd.
Byddai'n ymhyfrydu mewn llwyddiant eraill.
Cofiaf Eisteddfod Bro Madog 1987 ac Iwan Parry wedi ennill cystadleuaeth yr unawd bariton dan 25 oed.
Daeth y si o gwmpas tua'r un pryd y byddai'n dechrau fel milfeddyg yn Nolgellau toc wedi hynny.
Gwnes daro ar John Tudor ar y cae a chyfeiriais mewn sgwrs fod y fet newydd yn dipyn o ganwr.
Ei ateb oedd "Twt twt, fet dwi isio nid canwr".
Sawl tro wedi hynny y
gwelais John Tudor mewn cyngerdd yn gwrando, mwynhau a chefnogi ei fet (canwr) ifanc.
Mae pawb a'i hadwaenai, wrth gwrs a'u hatgofion eu hunain.
Cofiaf i ef fel person tal gyda safiad urddasol a gwen ddireidus; un a chonsyrn am eraill, ac a
ymfalchïai yn eu llwyddiant.
Gallwn dreulio llawer mwy o amser yn nodi niferoedd o gyrff a phwyllgorau diri y bu ei gyfraniad iddynt yn ddifesur.
Cydymdeimlwn a'r teulu ôll yn eu profedigaeth.
Heddwch i'w lwch.
Evie Morgan,
Cadeirydd Cyngor Gwynedd.