Bwrlwm ieuenctid Ebrill 2010 Mae chwech o ferched ifanc yr ardal sy'n aelodau ffyddlon o Ysgol Theatr Maldwyn, yn cymryd
rhan yng nghynhyrchiad diweddaraf y cwmni sef 'Mela'.
Sioe am bobl ifanc
yw hon - eu pryderon a'u gobeithion, a'r
ffordd y mae pobl mewn oed yn 'mela' yn eu bywydau.
Mae un perfformiad wedi bod eisoes yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ac mae'r
cwmni'n mynd ar daith o gwmpas theatrau'r Canolbarth yn ystod Ebrill a Mai.
Pob lwc i Manon, Ffion, Caryl, Rebekah, Sioned a Heledd