|
Daeth i Dywyn yn 1978 o Blwyf Beddgelert lle roedd yn Swyddog Ieuenctid i Esgobaeth Bangor. Tra ym Meddgelert bu hefyd yn aelod o dîm achub mynydd. Ordeiniwyd ef i wasanaethu'r Eglwys yng Nghymru yn 1963 a chafwyd gwasanaeth undebol i ddathlu'r deugain mlynedd hynny yn Eglwys Sant Cadfan yn ddiweddar. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o'i ymdrech i gael cysylltiad eciwmenaidd rhwng eglwysi a chapeli'r ardal. Dechreuodd fel curad yng Nghonwy (lle y cyfarfu â Beryl): yna symudodd i fyw i Lanfachreth yn 1968 gan wasanaethu eglwysi yn ardal Dolgellau. Felly, nid oedd Bro Dysynni yn ddiarth iddo pan symudodd i Dywyn. Mae Martin a Beryl wedi ymwneud â llawer o weithgareddau cymdeithasol yn ystod y pum mlynedd ar hugain y maent wedi byw yn Nhywyn. Mae Beryl wedi gweithio gyda'r Groes Goch gan ganolbwyntio ar gynorthwyo'r plant. Mae wedi gweithio yn Ysgol Penybryn ers sawl blwyddyn hefyd ac wedi bod yn arweinyddes Cymdeithas Sant Cadfan a changen Aberdyfi o Gymdeithas y Mamau. Mae Martin yn aelod a chyn gadeirydd o Glwb y Gader; mae wedi cefnogi Rheilffordd Talyllyn a gwahanol grwpiau chwaraeon. Mae hefyd yn aelod o bartneriaeth yn Nhywyn sy'n hyrwyddo gweithgareddau i bobl leol. Derbyniodd ei Fathodyn Aur yn ddiweddar fel rhoddwr gwaed. Fel Ficer Tywyn, ef yw Padre y Lleng Brydeinig a Chaplan yr ysbyty. Bu hefyd yn Gaplan i'r Lluoedd Arfog rhwng 1978 ac 1997. Lledaenodd ei weinidogaeth dros y blynyddoedd o Dywyn a Bryncrug yn unig yn 1978 i gynnwys Aberdyfi yn 1982, gan ychwanegu Llanegryn, Abergynolwyn, Llanfihangel y Pennant a Thalyllyn yn 1994. Mae ganddo gyfrifoldebau yn yr esgobaeth hefyd: daeth yn Ddeon Gwlad ar Ystumanner yn 1987, Canon o Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1990, a Chanon Brebendari yn 1997. Anogodd Ficer Riley aelodau ei eglwysi i gymryd rhannau arweiniol yn y gwasanaethau. Gyda'i anogaeth mae sawl aelod wedi eu hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth eu hunan ac y mae hefyd wedi croesawu cymorth gan offeiriaid sydd wedi ymddeol. Mae ganddo wir ddiddordeb mewn bywyd gwledig a chyfrifoldeb Cristnogion tuag at eu hamgylchfyd. Martin yw Swyddog Gwledig yr Esgobaeth. Bydd bwlch ar ôl Martin a Beryl, nid yn unig ymhlith aelodau'r eglwysi, ond ymhlith pawb sydd wedi derbyn eu cymorth a'u cefnogaeth ymarferol. Rwan, bydd ganddynt hamdden i dreulio mwy o amser gyda'r teulu, sef James a Rita a'u meibion Jack a Colyn yn America, Peter a Debbie, a'u plant hwythau, Ben a Kim yng Ngheinws, ac Emma sydd newydd gwblhau cwrs gradd mewn nyrsio. Dymuniad pawb yw iddynt fwynhau eu hymddeoliad yng Nghorris ac y byddant yn dychwelyd i weld eu ffrindiau yn gyson. Janet ac Alun Evans
 |