I lawer ohonom sydd wedi cael to dros ein pennau ers blynyddoedd, rhaid cydnabod mai mater o ddiddordeb ymylol yw y broblem hon wedi bod. I lawer o'n pobl ifanc, fodd bynnag, dyma, yn ddiau, yw prif broblem yr oes bresennol. Nid ei bod yn broblem unigryw i'n hoes ni wrth gwrs, ond oherwydd y chwyddiant aruthrol mewn prisiau tai yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, y mae yn fwy difrifol heddiw nag y bu erioed.
Yn achos prynu tŷ, a chael benthyciad gan y Banc neu Gymdeithas Adeiladu, y berthynas rhwng cyfartaledd pris tai yn ein hardal, sef £123,500 (yn ôl un o gwmnïau Ariannu Tai mwyaf blaenllaw Cymru, er y tybiwn ni ei fod yn fwy agos i £140,000 ym Mro Dysynni o nodi yr hysbysebion yn y papurau lleol), a chyfartaledd incwm yn ein bro, sef tua £22,500 y flwyddyn, sy'n allweddol. Cofier, mai tair gwaith incwm blynyddol yr unigolyn neu'r cwpwl, yw sail cais llwyddiannus am forgais. Os cymerir cyfartaledd pris tŷ yn, dyweder, £130,000, a bod blaendal o bump y cant, pa deulu cyffredin yn ein hardal sydd ag incwm o dros £41,000 y flwyddyn!?
Ydyw, mae prisiau tai yn uwch mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain, ond mae'r cyfartaledd incwm yn llawer uwch hefyd. Cynigir cymorth i weithwyr allweddol yn ne ddwyrain Lloegr. Cofier, fodd bynnag, fod cyfartaledd incwm yng Ngwynedd, o'i gymharu â phris tai, llawn mor ddifrifol ag y mae yn ne ddwyrain Lloegr, ac nid oes cymorth cyffelyb ar gael; wedi'r cyfan, mae pob teulu ifanc yn allweddol i'n hardaloedd gwledig Cymreig!
Deallwn, fodd bynnag, y rhoddwyd hawl yn ddiweddar i Awdurdodau Lleol werthu tir sydd yn eu perchnogaeth am lai na phris y farchnad i'r pwrpas o adeiladu tai fforddiadwy, a da yw deall fod Gwynedd yn manteisio ar hyn, mewn cydweithrediad â Thai Clwyd, yn un o ardaloedd Meirionnydd.
Medrir rhentu'r fath dai, yn rhesymol, neu eu gwerthu i frodorion yr ardal, dan gynllun rhan-berchnogaeth (lle prynir/morgeisir canran o'r tŷ, a thelir rhent am y rhan arall hyd nes y medrir ei brynu yn nes ymlaen). Deallwn, hefyd, y medrir defnyddio'r un hawl i werthu tir y Cyngor i grŵp cydweithredol o dan y model Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol.
Croesawn y datblygiad arloesol hwn, ond credwn y dylai'r Cynulliad, neu Senedd Sant Steffan, greu cynllun mwy cynhwysfawr, gan gynnwys cymorth ariannol, i ymateb i'r galw.