BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Alika Rajput Mynd i Affrica
Mehefin 2008

Mae merch ifanc o Aberdyfi wedi penderfynu mynd i weithio i Affrica cyn cychwyn ar ei chwrs coleg ym mis Medi.

Pan ddychwelodd Alika Rajput, ugain oed, o Tanzania ar ôl bod yno am wyliau efo'r teulu fe benderfynodd ddychwelyd yno i wneud gwaith gwirfoddol. "Fe gefais fy synnu gan yr hyn a welais yno," meddai Alika. "Mae'r bobl yn hynod o dlawd a'u safon byw yn ddychrynllyd o isel. Dydy nhw'n meddwl dim am gerdded saith milltir i chwilio am ddŵr. Serch hynny, maen nhw'n bobl hapus gyda gwen ar eu hwyneb bob amser. "

Allai hi ddim peidio â'u cymharu efo ni; mae gennym ni bopeth ond eto dydy hi ddim yn ymddangos ein bod hanner mor hapus a nhw.

Ar y cychwyn, bydd yn byw efo teulu lleol yn Arusha sy'n un o'r trefi mwyaf yn Tanzania, a bydd yn gweithio mewn cartref i blant amddifad ar gyrion y dref.

Yna, ar ôl chwe wythnos, bydd yn treulio pythefnos yn gweithio gyda llwyth y Masai.

Dydy hi ddim yn siwr beth yn hollol fydd yn ei hwynebu yn ystod y cyfnod hwn ond fe fydd gwirfoddolwyr eraill yn gwmni iddi.

Efallai y caiff gyfle i ddysgu tipyn o Saesneg i'r brodorion, a helpu ychydig arnynt gyda dulliau modern o amaethu.

Mae ganddi brofiad eisoes o weithio ar ffermydd organig yn Ewrop.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy