A dyna'n wir oedd hanes Abergynolwyn wrth i'r Ganolfan newydd gael ei hagor yn swyddogol.
I lawer iawn o'r pentrefwyr, yn enwedig y pwyllgor gwaith, roedd yr achlysur yn llawn uchafbwyntiau ac yn dwyn yn ôl lawer o atgofion o'r amser pryd y penderfynwyd yn derfynol bod angen dymchwel yr hen Neuadd a symud ymlaen i godi un newydd yn ei lle.
Golygai hynny wrth gwrs, bod angen cryn benderfyniad, ond gydag ymateb positif yr aelodau, torchwyd llewys, ac fe aed ati i gynllunio, llenwi ffurflenni, pwyllgora, ac wrth gwrs i godi arian yn lleol. Do, fe gafwyd anghytuno, a do, fe fu bron rhoi'r ffidil yn y to. Ond, trwy ddyfal barhad, fe lwyddwyd i ddenu'r grantiau angenrheidiol, ac o'r diwedd, wedi pum mlynedd, gwireddwyd y freuddwyd.
Yn anffodus, oherwydd anhwylder, ni fedrai Mrs Elma Pugh, un o golofnau pwyllgor y Neuadd am flynyddoedd lawer, fod yn bresennol i agor y Ganolfan yn swyddogol. Cymerwyd ei lle gan Glyn James, Machynlleth, (gynt o Abergynolwyn a Dolgoch) ac yn ei anerchiad, cyfeiriodd at yr amrywiol achlysuron, yn llawen a thrist, a gymerodd le dros y blynyddoedd i gynnal yr hen neuadd a'r camau cyntaf a gerddwyd i geisio am yr un newydd.
Bu llawer yn gweithio'n galed ond rhaid oedd tynnu sylw at ddyheadau ac arweiniad doeth y diweddar Eilir Owen, a gwaith diflino'r cadeirydd a rheolwr presennol y Ganolfan, Mr Royston Jones. Braf oedd cael cwmni cymaint a fu'n rhan o'r broses yn y gynulleidfa a chyfeiriwyd at yr 'ysbryd cymunedol' gan yr Arglwydd Elis Tomos ac Elfyn Llwyd A.S. Roedd y ddau yn unfarn fod cynnwys y Post a chaffi yn ychwanegiad pwysig ac yn fodd i'r pentrefwyr ymgynnull mewn man canolog.
Ni fyddai achlysur o'r fath yn plesio heb gyfraniad plant yr ysgol. Pleser yn wir oedd gwrando arnynt yn cyflwyno eu heitemau, profiad amheuthun yn ogystal oedd gwrando ar sŵn hyfryd y delyn yn y cefndir - cyfraniad gwerthfawr un o'r cyn ddisgyblion, sef Angharad Jones, Caerberllan.
Canolfan Hamdden Bro Dysynni
'Heulwen wedi'r ddrycin' - dyna yn wir hanes y Ganolfan y dyddiau hyn, wedi'r aros yn dilyn gwyntoedd cryfion Mawrth 2002 pryd y chwythwyd rhannau o do'r hen adeilad.
"Rydym i gyd fel staff a phawb sy'n gysylltiedig â hi, mor falch o 'r Ganolfan sydd gennym erbyn heddiw - er gwaethaf yr oedi," meddai Brian Hughes, y Rheolwr. "Rydym yn ddyledus i lawer, oherwydd nid mater bach yw dod o hyd i arian ar gyfer y math yma o waith adferol. Rydym felly am gyd nabod Cyngor Gwynedd, y cwmni insiwrans, ac ysgolion y dalgylch (fu mor hael eu cyfraniadau NOF) am eu cefnogaeth."
Mae'r Ganolfan ar ei newydd wedd yn atyniadol iawn ac yn cynnig ystod helaeth o brofiadau ar gyfer cadw'n heini, gan gynnwys nofio, ystafell sauna, campfa sboncen, a gweithgareddau tîm allan ar y llawr astro a'r cwrt tennis wrth gwrs. Mae'r ystafell fawr eto yn cynnig lle i chwaraeon tîm - ac yn gaffaeliad gwych i rieni sy'n dymuno cynnal parti pen-blwydd i'r plant.
Ond heb amheuaeth, yr ystafell ffitrwydd 'state of the art' chwedl rhai, yw'r un sy'n tynnu sylw ac yn cael ei defnyddio'n frwd.
"Rydym wedi llwyddo i anwytho cymaint â 420 o bobl, o amrywiol oedrannau, yn ystod y pum wythnos diwethaf", meddai Brian, " a rhagwelaf y bydd defnydd helaeth yn cael ei wneud o 'r ystafell hon trwy'r gaeaf "
Beth am dalu ymweliad felly â'r Ganolfan ichi gael gweld drosoch eich hun. Mae'n gyfle bendigedig ichi gael gwerthfawrogi'r cyfleusterau sy'n bodoli ar eich cyfer; ac, os ydych yn awyddus i wella lefel eich ffitrwydd, does dim gwell na'r hyn gaiff ei gynnig yma."
Does dim rhaid talu bob tro cofiwch. Er enghraifft, yn ystod gwyliau ysgol, caiff pawb dan 16 oed wersi nofio yn rhad ac am ddim; a chithau sydd dros 60 oed, mae'r cyfle nofio eto'n rhad ac am ddim, a hynny drwy'r flwyddyn.
Heb amheuaeth, mae'r Ganolfan hon yn un y dylem ni i gyd fod yn falch ohoni. Gwnewch yn fawr o'r cyfleusterau. Beth amdani felly? Cysylltwch ar 710167 neu 711763 am fwy o wybodaeth.