|
"Mae'n dywyll, mae'n oer, ae mae 'na 216 o filltiroedd o'm blaen!" dyna oedd yn cefn ein meddyliau wrth ddechrau'r daith o Gaergybi.
Wedi bore Sadwrn wawrio, fe welsom olygfeydd anhygoel wrth i ni seiclo i lawr ar hyd ochrau'r Menai cyn troi am Eryri ac i lawr i gyfeiriad Porthmadog.
Ar ôl dringo fyny o Faentwrog i Drawsfynydd ac hefyd y dynfa enfawr o Ddolgellau i ben Bwlch Dinas ar yr un diwrnod, roedd ein coesau yn eithaf trwm pan gawsom seibiant dros nos yn Rhaeadr.
Gyda mwy na 80 milltir i fynd bore Sul, roedd rhaid cymryd Iiwyth o "Energy Gels" a bananas er mwyn cwblhau'r her fwyaf yr ail ddiwrnod - sef y Bannau Brycheiniog.
Wrth i ni gyrraedd Bae Caerdydd nos Sui, roedd y wefr o fod wedi seiclo mwy na 200 milltir o ben Gogledd Cymru i lawr j'r brif ddinas mewn ddiwrnod yn anhygoel.
Hyd yn hyn rydym wedi hel mwy na £2,200 tuag at elusen Leukaemia Research ac os hoffwch ein noddi ewch i www.justgiving.com/holyhead2cardiff neu cysylltwch â Rhiannon Rowlands, Tywyn.
Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn barod.
 |