BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Aled, Idris, Gwyn, Meirion a Dewi o gwmni Cig Oen Cymreig Uniongyrchol. Menter Cig Oen
Rhagfyr
Llwyddiant i fenter leol.
Mewn argyfwng dywedir fod gennych ddau ddewis sef un ai brwydro neu ildio. Pan oedd prisiau wyn yn ddifrifol o isel yn 1998, a dyfodol amaethyddiaeth yn bur dywyll, doedd ildio ddim yn opsiwn i Dewi Owen, Esgairgyfela, Aberdyfi, felly penderfynodd frwydro.

Teimlai ar y pryd fod prisiau uchel cig oen yn yr archfarchnadoedd yn gwbl afresymol ac annheg, yn wir yr oedd pris un goes ganddynt hwy yn uwch na'r tâl â dderbyniai ef a llawer amaethwr arall, am oen cyfan! Bu'n protestio, do, ond penderfynodd fod yn rhaid gwneud mwy na hynny, roedd yn rhaid canfod ffordd o ddod â'i gynnyrch at wraig y ty, mewn dull mwy uniongyrchol a thorri allan y gwr canol fel petae.

Mewn trafodaeth anffurfiol gyda David Roberts, cigydd lleol, deallodd Dewi fod nifer sylweddol o ymwelwyr ag Aberdyfi wedi dychwelyd adre o'u gwyliau yr haf hwnnw gyda chyflenwad o gig oen blasus Cymreig na phrofwyd ei debyg ganddynt o'r blaen.

Marchnata uniongyrchol
Sbardunwyd ef i ddatblygu'r syniad o farchnata ei gynnyrch yn uniongyrchol i'r bobl hyn yn gyson a gwahoddwyd rhai o'i gyfeillion ato i drafod y posibiliadau. David Roberts, gyda'i brofiad fel cigydd, ym naturiol oedd un o'r rhai cyntaf i dderbyn yr alwad er nad yw ef bellach â rhan yn y fenter. Un arall a wahoddwyd oedd Aled Rees o Bennal, nid yn unig oherwydd ei gysylltiadau amlwg â byd amaeth ond hefyd oherwydd ei brofiad a'i ymwneud gydag ymwelwyr. Amaethwr arall a dderbyniodd yr alwad i sicrhau fod cyflenwad digonol o gig safonol oedd Idris Evans o Gwm Maethlon.

Pa mor dda bynnag fo unrhyw gynnyrch, mae'n rhaid ei farchnata'n effeithiol ac yn y cyswllt hwn galwyd ar arbenigedd Gwyn Evans o Fro Ddyfi gyda'i brofiad o fyd busnes ynghyd â Meirion Roberts, eto o Bennal, gyda'i ddawn arbennig ym maes cyfrifiadureg.

Lansio cwmni Cig Oen Cymreig Uniongyrchol
Canlyniad y trin a'r trafod trylwyr a ddilynodd oedd lansio cwmni cydweithredol Cig Oen Cymreig Uniongyrchol. "Direct Welsh Lamb", ym Mhenmaendyfi ym Mehefin 1999 gyda Dewin gadeirydd iddo. Cyflenwi pecynnau deniadol ac amrywiol o gig oen Cymreig ar gyfer gwraig y ty a wna'r cwmni ac erbyn hyn caiff cymaint ag oddeutu hanner cant or pecynnau hyn eu hanfon yn wythnosol i bob rhan o Brydain yn dilyn archebion cyson ar eu gwefan effeithiol.

Mae'r hedyn a blannwyd ac a eginodd ar lannau'r Ddyfi yn 1998 bellach wedi tyfu ac yn datblygu'n llwyddiannus. Er mai un cigydd rhan-amser a gyflogid ar y dechrau, penodwyd cigydd llawn-amser erbyn hyn ac mae swydd weinyddol lawn-amser ychwanegol bellach yn bodoli yn ogystal â rhai rhan amser. Datblygwyd rhan o hen stabl ar fuarth Esgairyfela i'r ansawdd ofynnol ar gyfer y cigydd hwn ac mae cynlluniau ar droed i ddatblygu gweddill yr adeilad trwy gymorth cyllid cynllun Amcan Un fel y gellir ehangu'r busnes i gynnwys gwerthiant pecynnau cyffelyb o gig eidon erbyn yr haf gan gyflogi cigydd ychwanegol efallai.

Mynd allan at y cwsmer a Delia Smith!
Yn ddiweddar cysylltodd cynrychiolydd or Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n marchnata Cig Oen Mynydd Cymreig eu ffermydd yn Eryri, â'r cwmni i geisio cyngor, cymorth a chydweithrediad a'r gobaith yw y bydd hyn yn agor drysau i archebion pellach. Cred y cwmnin gryf hefyd mewn mynd â'u cynnyrch yn uniongyrchol at y cwsmer trwy ymweld â phrif Sioeau Bwyd Prydain megis y "BBC Good Food Show" a gynhelir yn flynyddol yn yr NEC yn Birmingham. Yno y daethant i gysylltiad â'r enwog Delia Smith, gwraig sydd â chysylltiadau teuluol agos â Thywyn, gyda llaw, ac yr oedd y gogyddes adnabyddus wedi ei phlesio gymaint ag ansawdd y cig oen fel y trefnodd fod linc i wefan y cwmni bellach ar gael oi gwefan bwysig a phoblogaidd hi ei hunan, ac eisoes, gwelwyd dylanwad hynny ar niferoedd yr ymholiadau ar archebion.

Ychydig wythnosau'n ôl derbyniodd y cwmni achrediad gan Freedom Foods yn ogystal, sef meincnod yr RSPCA mewn hwsmonaeth, a gobaith y Cadeirydd yw y bydd yr hawl i gynnwys y logo hwn ar eu cynnyrch yn fodd ychwanegol i hyrwyddo gwerthiant.

Wrth daflu trem yn ôl dros y pum mlynedd a aeth heibio, nododd Dewi Owen werthfawrogiad y cwmni o gymorth sawl unigolyn a mudiad. Cydnabu gyfraniad Elwyn Vaughan ac asiantaeth CYMAD am eu cymorth au hanogaeth ar ddechraur fenter a chyfeiriodd hefyd at gyfraniad gwerthfawr pobl fel Howard Davies sy'n hyrwyddo prosiectau cefn gwald. Ond y ffactor bwysicaf o ddigon yn llwyddiant y cwmni, yn ôl Dewi, oedd bodolaeth lladd-dy lleol yn Nhywyn gan y byddai wedi bod yn gwbl amhosibl gweithredu mewn unrhyw fodd hebddo..

Gobaith i Gymru
Er ei bod hin argyfwng o hyd ar gefn gwlad ar lawer cyfrif dangosodd Dewi, Aled, Idris, Gwyn a Meirion trwy eu hagwedd ddi-ildio, eu menter, eu dyfalbarhad au hysbryd cydweithredol, fod yna obaith o hyd i Gymry lleol yn yr ardaloedd gwledig a bod rhagolygon am yfory gwell ar y gorwel.

Rheidrwydd yw mam pob dyfais yn ôl hen air ar rheidrwydd yn yr achos hwn oedd ymladd ac nid ildio. Llongyfarchiadau calonnog i chi hogia, fe haeddwch bob llwyddiant a ddaw ich rhan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy