Gyda chymorth grantiau sylweddol oddi wrth y Cynulliad, Cronfa'r Loteri Fawr, Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Peter Saunders, llwyddodd y pwyllgor blaengar i gyflawni eu prosiect uchelgeisiol o greu canolfan gymunedol o'r safon uchaf.
Roedd yn gwbl amlwg i'r gynulleidfa niferus o wahoddedigion a chefnogwyr oedd yn bresennol fod yr adnoddau o fewn Neuadd Egryn, bellach, yn cynnig cyfleusterau rhagorol ar gyfer pob math o weithgareddau, yn cynnwys rhai theatrig. Mae'r systemau sain a goleuo'n rhai cwbl gyfoes a safonol ac mae'r cadeiriau cyfforddus a'r naws liwgar, ysgafn yn creu boddhad ac yn ennyn edmygedd pawb sy'n ymweld a hi.
I un a fu'n aelod ffyddlon a gweithgar o bwyllgor y Neuadd am y rhan fwyaf o'i oes, Sulwyn Jones, yr aeth yr anrhydedd o'i hail-agor yn swyddogol, a mawr yw dyled y gymuned iddo am ei ymroddiad, ei ddyfalbarhad a'i lafur caled dros gyfnod maith. Ar lechfaen a ddadorchuddiwyd ganddo, cerfiwyd ei enw'n llawn, ynghyd a'r dyddiad, ac yno hefyd mae'r enw "Sul", sef yr enw yr adwaenir ef wrtho'n hoffus gan bawb o'i gydnabod. Yn briodol iawn, ar ran isaf y llechfaen ychwanegwyd y geiriau isod sy'n cyfleu gwerthfawrogiad pawb o'i lafur di-ildio dros ei bentref genedigol a'i bobl:
"Ein gwas a'n cymwynaswr".
Llywyddwyd y cyfarfod syml, dwyieithog yn fedrus iawn gan Gadeirydd ymroddgar pwyllgor y neuadd, sef Mrs Avril Micah, pryd yr olrheiniodd hanes bywyd diwylliannol y pentref cyn codi'r Neuadd bresennol yn 1959. Yn y dyddiau cynnar hynny, cynhelid prif ddigwyddiadau'r gymuned yn yr ysgol neu yn festrïoedd y capeli, ond wedi'r Ail Ryfel Byd, daeth "Theatr y Garsiwn" ar wersyll milwrol Gibraltar ger plasty Peniarth at ddefnydd y pentref ac esgorodd hyn ar gyfnod prysur a bywiog iawn yn ei hanes gyda'r Eisteddfod a'r Ŵyl Ddrama yn llawn eu bri.
Pan gynigiodd y diweddar J.Williams-Wynne lain o dir i godi neuadd ganolog ger talwrn y pentref, debyniwyd y cynnig yn llawen.
Cyfrannodd do hen theatr y gwersyll, yn ogystal, ac felly y daeth y neuadd bresennol i fod. Talodd Mrs Micah deyrned i'r rhai hynny a lafuriodd mor galed, ac mewn dyddiau digon anodd, i sicrhau Neuadd i'r pentref yn y cyfnod hwn. Cyfeiriodd yn arbennig at Miss Edith Rowlands, Tywyn, aelod o bwyllgor cyntaf y Neuadd, a oedd yn bresennol er ei bod erbyn hyn yn ei hwythdegau.
Er i ystafell gymuned hwylus gael ei hychwanegu yn 1997, teimlai aelodau'r pwyllgor fod yr hen Neuadd yn dechrau dangos ei hoed erbyn 2002 a'i bod yn amser ystyried ei moderneiddio. Roedd cyflwr y system drydan yn peri pryder mawr yn ogystal a'r to asbestos oedd erbyn hynny'n dangos olion ei benwynni. Paratowyd cynllun busnes trylwyr gan y pwyllgor drwy gymorth lan Rutherford a Carroll Hughes a manteisiwyd ar gyngor doeth Mrs Ann Jones, Llanllwyda gynt, yn rhinwedd ei swydd ym myd y grantiau.
Yn cyd-wasanaethu ag Ann roedd Hannah Edwards, merch ifanc a oedd yn newydd i'w swydd, ond buan y profodd hithau'n gefn mawr i'r pwyllgor gydol y broses o ariannu'r prosiect.
Y pensaer gwreiddiol oedd Spencer Pugh ond olynwyd ef gan Mike Searle ac o dipyn i beth sicrhawyd grantiau o oddeutu £300,000 o'r ffynonellau a enwyd.
Dewiswyd adeiladydd lleol, Mr Michael Owen, i gyflawni'r gwaith a derbyniodd ef a'i weithwyr ganmoliaeth a chymeradwyaeth am eu gwaith rhagorol.
Cyn dadorchuddio'r llechfaen hardd a pherfformio'r agoriad swyddogol, mynegodd Sulwyn Jones ei falchder o fod wedi cael ei ddewis i gyflawni'r dasg. Mewn araith hwyliog, ddidwyll a llawn hiwmor arferol, taflodd gip yn ôl dros y blynyddoedd gan geisio osgoi enwi unigolion, er eu cyfraniad arbennig, rhag gadael rhywun allan.
Yn ystod y cyfarfod diddorwyd cynulleidfa'r Neuadd lawn gan dair telynores ifanc o ardal Llanegryn a Rhoslefain sef Siwan Davies, Catrin Davies ac Elain Micah a chafwyd datganiad hyfryd gan blant yr Ysgol Gynradd o eiriau a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Mrs Bethan Davies.
Llongyfarchiadau calonnog iawn felly i'r aelodau hynny am gyflawni'r fath gamp. Mawr yr diolch y gymuned gyfan iddynt am ddarparu canolfan gwbl arbennig at wasanaeth y trigolion dymunir bob rhwyddineb iddynt yn y gwaith pwysig o'i chynnal a'i chaw i'r genhedlaeth nesaf.