Fe benderfynodd y teulu alwr doctor am ddau or gloch y bore am fod un ohonynt yn wael. Roedd neges ar ffôn y feddygfa yn Nhywyn yn dweud wrtho am ffonio rhif arbennig i gael gafael ar feddyg. Nid oedd ateb i'w gael ar y rhif hwn, fodd bynnag, a bu raid ffonio 999 i gael ambiwlans yn y diwedd.
Un enghraifft yn unig yw hon ac, yn anffodus, mae llawer mwy ar gael. Dydy'r sefyllfa ddim yn unigryw i'r ardal hon a deallwn y bydd meddygon Gwynedd ac Ynys Môn i gyd yn optio allan" ar ôl Ebrill y cyntaf. Hynny ydy, maen nhw wedi dewis peidio â chynnig eu gwasanaeth Y Tu Allan i Oriau, sef :
pob Gŵyl y BancY pwnc dyrys hwn oedd dan sylw yn Neuadd Dyfi lle cynhaliwyd Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth o'r Cynulliad Cenedlaethol ar y chweched o Chwefror. Dau o'r bobl a fu'n annerch y 150 o aelodau'r cyhoedd oedd yn bresennol oedd Grace Lewis-Parry, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a Monica Williams, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion.
Mae'n ymddangos y bydd newid mawr yn y drefn drwy'r wlad ar ôl Ebrill y cyntaf ond beth yn union fydd y drefn newydd does neb yn siŵr iawn eto. Mae gan y Byrddau Iechyd Lleol tan Ionawr y cyntaf 2005 i roi cynllun ar waith fydd yn cynnig gwasanaeth boddhaol i bawb ohonom. Does ond gobeithio y bydd y cynllun yn un llawer mwy boddhaol na'r un sy'n cal ei weithredu ar hyn o bryd.
A dyna a ddaeth i'r wyneb yn ystod y sesiwn cwestiynau yn y cyfarfod: anfodlonrwydd llwyr pobl yr ardal â'r hyn sydd yn cael ei gynnig rŵan. Dyna oedd byrdwn sylwadau y Cynghorydd David Richardson o Aberdyfi. Eglurodd iddo fod yn cadw gwesty am flynyddoedd ai fod ar ddyletswydd am bedair awr ar hugain y dydd yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae gen i ofn fod bod yn ddoctor bellach wedi mynd yn joban," eglurodd, yn hytrach na galwedigaeth."
Y galw mwyaf yn y cyfarfod, fodd bynnag, oedd am ddefnyddio Ysbyty Tywyn fel un o'r canolfannau allan o oriau arfaethedig yn y cynllun newydd. Dyna oedd ple Glenys Zawada, Uwch Nyrs Ysbytai Tywyn a Dolgellau.
"Mae'n bwysig bod hyn yn digwydd," pwysielsiodd, a bod y nyrsys yn yr ysbyty yn cael eu hyfforddi i ddysgu'r sgiliau angenrheidiol i wynebu'r sefyllfa newydd. Wedi'r cyfan, bydd gan nyrsys lleol amgenach gwybodaeth am gleifion lleol."
Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Llew Huxley.
"Mae'n ffolineb llwyr gorfodi cleifion lleol i deithio o leiaf ugain milltir ac ysbyty ardderchog gennym ar garreg y drws, meddai.
Mae gen i bob cydymdeimlad âr doctoriaid meddai un gŵr (na fynnai roi ei enw) wrth ein gohebydd ar ddiwedd y cyfarfod. "Faswn i ddim yn hapus iawn 'chwaith gorfod wynebu diwrnod o waith ar ôl bod ar fy nhraed drwy'r nos. Lle rydw i'n ddig efo doctoriaid Tywyn ydy eu bod nhw wedi optio allan cyn bod cynllun sy'n gweithio'n foddhaol wedi ei roi mewn grym. Dydy hyn ddim yn deg o gwbl â chleifion yr ardal."
Mae'n amlwg bod llawer o waith trafod eto cyn penderfynu beth yn union fydd yn digwydd. Efallai y byddai'n beth buddiol i Gynghorau Cymuned yr ardal fynd ati i ddarganfod beth ydy dymuniad pobl Bro Dysynni fel y bydd Awdurdod Iechyd Gwynedd yn gwybod yn union beth a fynnwn.