Yn ôl yr hen chwedlau bu brwydr unwaith rhwng y Cymry a'r Sacsoniaid mewn cae yn llawn o gennin (leeks), ac ers y flwyddyn 1536 a chyfnod y brenin Harri'r pumed, cafodd y llysieuyn yma ei adnabod fel arwyddlun y Cymry.
Yn y ddrama Henry V gan Shakespeare ymddengys y geiriau the Welshmen did good service in a garden where leeks did grow, wearing leeks in their Monmouth caps.
Fodd bynnag, o gyfnod y Frenhines Fictoria ymlaen, cymrodd y blodyn, y genhinen Pedr, ei lle fel symbol traddodiadol y Cymry - yn ôl bob sôn am ei bod yn edrych gryn dipyn yn ddelach a chrandiach, ac yn arogli'n llawer gwell mewn lapel cot.
A hefyd mae'n siŵr ei bod yn beth digon naturiol i ddewis blodyn oedd yn blodeuo'r adeg yma o'r flwyddyn gan fod Dydd Gwyl Ddewi ar y cyntaf o Fawrth.
Deallaf fod dau fath o gennin Pedr yn cael eu cydnabod yn ddigymar â Chymru, sef y genhinen Pedr Dinbych y Pysgod, y Tenby, a'r genhinen Pedr wyllt neu'r Lent Lily sy'n blodeuo yn ystod y Grawys.
Mae'r Tenby yn wahanol i'r cennin Pedr gwyllt am fod ganddi betalau melyn golau, a thrymped llai o liw melyn/oren tywyllach.
Mae petalau a thrymped y cennin Pedr gwyllt yn hirach ac yn llawer mwy euraidd.
Blynyddoedd yn ôl, prin iawn fyddai'r adegau pan welid y genhinen Pedr yn blodeuo erbyn Mawrth y 1af, ond eleni, gyda'r holl dywydd cynnes rydym wedi ei gael, a hefyd "y twymo byd eang - y global warming" mae'r genhinen wedi blodeuo yn ambell i blwyf ers mis Rhagfyr! Ond yn fy ngardd i yr wythnos hon, rwyf newydd weld y genhinen Pedr cyntaf i flodeuo a hithau ond yn fis Chwefror.
CYFARFOD BLYNYDDOL Y DAIL
Nos Fawrth, 15 Ebrill, 2008, am 7.30pm yn Llyfrgell yr Ysgol Uwchradd. Croeso cynnes iawn i holl garedigion y Dail. Byddai'r Trysorydd yn falch o dderbyn unrhyw arian sy'n ddyledus mor fuan â phosibl i'w alluogi i baratoi mantolen ariannol erbyn y cyfarfod hwn.