Fel y gwŷr llawer ohonoch, y mae gwreiddiau Manon ym Mryncrug, a Taid a Nain Bont yw Dafydd ac Una iddi. A phawb yn nabod Dafydd fel Dafydd y Bont. Felly y cyfeiriais ato o gyfnod plentyndod.
Roedd gennym ddim ffwtbol diguro ddiwedd y pedwar degau a dechrau'r pum degau, a daethom yn bencampwyr y 'Cambrian Coast League' yn 1951. Roedd Dafydd yn amddiffynnwr cadarn yng nghanol y cae (centre half oedd yr enw ar y safle'r pryd hynny).
Byddai Manon a Lleuwen ei chwaer yn dod ar wyliau i'r Bont, ac y mae'r ddwy yn ymwybodol iawn o ddylanwad y fro arnynt.
Colled fawr i'r teulu oedd colli Siân, mam Manon a Lleuwen, rai blynyddoedd yn o1 pan oedd y ddwy yn ifanc.
Synnai Manon yn fawr at y teimliadau cynnes sydd ganddi am Fryn-crug, ac y mae'n dweud fod yna awyrgylch arbennig i'r lle sy'n agos iawn at ei chalon.
Yn gymharol ddiweddar, mae'n son am y profiad a gafodd wrth fedd ei hen hen Nain a Thaid ym mynwent Eglwys Llanfihangel y Pennant, a sylweddoli am y tro cyntaf mor uniongyrchol yw'r cysylltiad, a hithau heb feddwl am hynny o'r blaen.
Wrth gwrs, bu teulu'r Bont yn byw ym Mro Dysynni am genedlaethau fel y gwŷr llawer ohonom. Cefais innau brofiad tebyg yn sefyll wrth feddau fy nheulu ym mynwent Tywyn fwy nag unwaith. Anodd, onid amhosibl, yw disgrifio'r profiad, ond rhyw ymdeimlad ydyw rywsut fod yna fwy o nefoedd yno nag sy 'na o bridd.
Daeth Manon i sylw'r byd llenyddol pan enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe, yn y blynyddoedd diwethaf yma. Trodd yn fuan wedyn at ryddiaith, ac yn 2008 a 2009, cyhoeddodd ddwy nofel ar gyfer plant 9-13 oed yn "Cyfres yr Onnen", ac yn ddiweddar iawn yma cyhoeddodd ei thrydedd nofel (a'r un gyntaf i bobl mewn oed 'Fel Aderyn') a oedd ar gael yn Eisteddfod y Bala eleni, nofelau cyffrous, llawn dychymyg ac yn llawn o gymeriadau lliwgar.
Yn ystod y cyfnod prysur yma, symudodd Manon a'i theulu i Dywyn am ychydig, ac yn awr y mae'n byw ym Mhennal.
Yn nyddiau fy mhlentyndod yr oedd Pennal yn rhan o fro Dysynni, a chynhelid Cymanfa'r Sulgwyn yn Nhywyn bob blwyddyn, a byddai plant eglwysi Presbyteraidd Aberdyfi a Phennal yn rhan o 'Dosbarth y Ddwy Afon'.
Ac i mi y mae Pennal yn parhau felly, yn derbyn y papur fro - DAIL ~ DYSYNNI (ac ambell un hwyrach yn derbyn y 'Blewyn Glas'!).
Gobeithio'n~ wir y bydd y fro hon yn dal yn ysbrydiaeth i Manon fel yn ei nofelau cynnar. Ni allaf lai na meddwl am y gân enwog a rhagorol honno, 'Lleucu Llwyd' wrth feddwl am Bennal, "...y ferch wen o Bennal".
Diau fod cymdeithas glos Bro Dysynni wedi croesawu Manon a'i theulu'n barod.
Idris Jones