|
Mae'r ras, a gynhaliwyd gyntaf yn 1983, wedi rhoi Tywyn ar y map am 26 o flynyddoedd ac wedi cynhyrchu tua miliwn o bunnau i'r economi leol. Y prif reswm a roddir am dranc posib y ras enwog hon ydy diffyg cefnogaeth. Y Clwb Rotari yn Nhywyn sy'n gyfrifol am y ras ac am flynyddoedd bu'r deintydd lleol, Godfrey Worsey yn arwain tim brwdfrydig o'r Clwb i drefnu'r ras. Pan benderfynodd Godfrey roi'r swydd i fyny cymerwyd yr awennau gan George Watson. Fe wnaeth y ddau waith ardderchog. "Yn anffodus," eglurodd George, "mae nifer yr aelodau yn y Clwb Rotari wedi hanneru bran ers 1983 ac mae hi'n mynd yn fwy a mwy anodd cael
digon i ysgwyddor baich. "
Mae'r costau yn cynyddu un flwyddyn ar ôl y llall , yn bennaf oherwydd gofynion cyfreithiol llym. Er enghraifft, fe gostiodd ras y llynedd £44,000 i'w rhedeg gan adael £6,500 yn unig i'w rannu rhwng gwahanol elusennau. Er gwaethaf hyn, y teimfad ydy y gall y ras barhau dim ond i fwy o bobl ddod i helpu.
Dyna oedd byrdwn neges Keith Lycett, Llywydd y Clwb Rotari. "Mi fydd hi'n drist iawn os gorfodir ni i orffen cynnal y ras. Fel mae pethau ar hyn o bryd, fydd dim dewis gennym. Rhaid i ni gael mwy o bobl i helpu; mae'r baich yn ormod i griw bach."
Y teimlad ymysg pobl yr ardal ydy y byddai'n bechod petai'r ras yn dod i ben ar ôl 26 o flynyddoedd. Yn anffodus, dyma'r duedd y dyddiau hyn. Eisoes mae Ras Craig yr Aderyn wedi mynd ac yn ddiweddar clywsom am drafferthion y Sesiwn Fawr yn Nolgellau. Ydan ni am i Ras y Tren fynd yr yn ffordd?
Os fedrwch helpu mewn unrhyw ffordd cysylltwch a George Watson ar 07748 494552.
 |