|
Bu'r ddau yn byw yn y fro ers tros ugain mlynedd, un ar bymtheg ohonyn nhw ym Mhwll Helyg ei hun. Fel y gellwch ddychmygu, bydd troi cefn ar Dysynni yn dipyn o rwyg iddynt ond maent yn gwbl argyhoeddedig eu bod yn gwneud y peth iawn. Mae Gill yn adnabyddus iawn i ni fel Chwaer yn y Ganolfan lechyd yn Nhywyn lle bu'n gweithio am y deunaw mlynedd ddiwethaf. Unwaith y bydd wedi cyrraedd Angola gwaith meddygol fydd hi yn ei wneud yno. Coedwigwr ydy Kevin ac mi fydd yntau yn gweithio yn y coed ac ar y tir yn ei fywyd newydd. Mi fydd y ddau yn gweithio i'r Baptist Missionary Society - World Mission. Cyn cyrraedd Angola, fodd bynnag, bydd Kevin a Gill yn treulio naw mis yn Birmingham ac wedi hynny chwe mis arall yn derbyn hyfforddiant ieithyddol yn Portugal. Yna, gadael am Angola i weithio gydag eglwys leol y Bedyddwyr. Bwriadant dreulio o leiaf ddeng mlynedd yno."Mae'r ddau ohonom yn sylweddoli bod hwn yn gam aruthrol yn ein bywydau," eglurodd Gill, ond roedden ni'n teimlo ei bod yn bryd i ni newid cyfeiriad. Rydym yn gwbl hyderus ein bod yn gwneud y peth iawn gan mai dyma lais Duw yn galw yn ein bywydau." "Mi fyddwn ni'n teimlo chwithdod mawr ar ôl yr ardal hon," meddai Kevin. "Mae hi'n mynd i fod yn anodd gadael bro sydd wedi rhoi cymaint i ni. Rydan ni'n gobeithio dod yn ol o bryd i'w gilydd, fodd bynnag a chadw cysylItiad â'r eglwys yn Nhywyn." Ychwanegodd fod Eglwys y Bedyddwyr wedi bod yn gefn mawr iddynt a'u bod yn ddyledus iawn iddi am ei chefnogaeth mewn gweddi. Bydd eu plant, Claire a Richard (mae Richard newydd raddio mewn newyddiaduriaeth yr haf hwn) yn naturiol yn gweld eu colli ac yn sicr o weld colli Pwll Helyg sydd wedi ei werthu eisoes. Bydd Kevin a Gill Jones, Pwll Helyg, Aberdyfi yn gadael yr ardal ym mis Medi i baratoi i fod yn genhadon yn Angola.
 |