BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Syr Meuric Rees Syr Meuric
Awst 2007
Mae ardal gyfan yn ymfalchïo pan mae un o'r fro yn ennill anrhydedd ac un ohonom ni yw Meuric Rees.

Wedi ei ddwyn i fyny a byw ar hyd ei oes yn ein plith, wedi cyfrannu a phresenoli ei hun mewn cymaint o weithgareddau yn ein hardal ac yn ein gwlad.

Eithriad mawr yw cael rhywun yn cael ei ddyrchafu'n farchog. Nid oes amheuaeth nad yw Meuric yn deilwng i'w alw yn 'Syr'. Mae ei gyfraniad mewn sawl man ac i sawl corff ag achos ar hyd ei oes yn syfrdanol.

Ymfalchïwn gyda Meuric, ei deulu a'i ffrindiau yn yr anrhydedd. Meuric fyddai'r cyntaf i ddweud mai partneriaeth a gyflawnodd yr holl waith da - partneriaeth blynyddoedd lawer gyda'i annwyl briod, Margaret, a fu yn gymorth a chefn iddo. Ei siom mawr heddiw yw nad yw hi wrth ei ochr i rannu'r anrhydedd. Mae ceisio croniclo'r holl swyddi ag anrhydeddau a ddaeth i'w ran ar hyd y blynyddoedd yn amhosibl.

Cofiwn mai un a aeth i Ysgol Gynradd Tywyn ac yna i Ysgol Ramadeg Tywyn yw Meuric. Ar ôl ysgol, aeth adref i weithio gyda'i dad yn Escuan. Ni chafodd ddim coleg, ond coleg profiad a choleg y Ffermwyr Ifanc lle dechreuodd siarad o flaen cynulleidfa a chystadlu mewn barnu stoc a siarad cyhoeddus.

Cafodd Clwb Bryncrug ef yn dal sawl swydd, yna yn y Sir, ac yn ddiweddarach fel Llywydd y mudiad yng Nghymru. Profiad sydd wedi bod a gymorth iddo byth. Pan fu Meuric a Margaret briodi aethant i fyw i Dyffrynglyncul, ac yno y buont yn ffermio'n llwyddiannus gan fagu eu tair merch Morfudd, Helen a Bethan.

Symud i Escuan ar farwolaeth ei dad ac o dro i dro wedyn - ychwanegu erwau at ei fusnes. Amaethwr llwyddiannus iawn sydd wedi agor ei fferm i eraill ar hyd y blynyddoedd er mwyn rhannu ei brofiadau â hwy.

Mae ei gyfraniad i amaethyddiaeth a bywyd Cymru mewn sawl corff a phwyllgor wedi bod yn arbennig. O'r holl gymdeithasau mae wedi bod yn rhan ohonynt, yr un sydd wedi rhoi y mwyaf o bleser a bodlonrwydd diddo yw'r 'Royal Welsh'.

Dechreuodd gystadlu yno pan oedd yn blentyn ac mae wedi mynychu'r sioe bron yn ddi-dor am saithdeg o flynyddoedd. Mae 'wedi chwarae rhan flaenllaw yn llwyddiant y Sioe. Mae wedi dal pob swydd bwysig yn y Gymdeithas, ac ef oedd un o'r rhai a sicrhaodd safle parhaol i'r sioe yn Llanelwedd.

Bu yn Llywydd y Sioe pan fu Sir Feirionnydd yn ei noddi. Enillodd brif wobr y Sioe - Gwobr Bryner Jones, a bu'n Gadeirydd y Cyngor nes ymddeol yn 2005.

Gofynnwyd iddo agor y Sioe yn 2006. Mae llwyddiant y Sioe Genedlaethol a chyfraniad Meuric iddi yn mynd law yn llaw.

Cafodd hefyd yr anrhydedd o gael ei ddewis yn Arglwydd Raglaw Gwynedd yn 1989, a bu'n y swydd bwysig honno hyd at 1999. Gellid dweud mai ef oedd y cyntaf o'r werin i ddal y swydd.

Wrth gyfeirio at ei holl weithgareddau yng Nghymru, peidiwn ag anghofio ei gyfraniad i fro ei febyd.

Ymhlith y rhain mae ei gadeiryddiaeth o Apêl Ysbyty Tywyn a'r ddau gan mil o bunnoedd a godwyd i adeiladu ward ychwanegol i'r ysbyty.

Mae hyd heddiw yn Llywydd Cartref Abbeyfield, a fo a osododd y fricsen gyntaf yn yr adeilad, ac fe alwyd y cartref yn Llys Meuric. Bu hefyd yn Gadeirydd Lleol apêl ariannu Neuadd Hamdden yn Nhywyn. Aeth yr arian a godwyd - naw deg o filoedd o bunnoedd - at godi adeilad newid ac ymolchi yng nghae chwarae'r ysgol ar gae Rhianfa.

Cofiwn hefyd am ei deyrngarwch a'i ymroddiad i'r achos yng nghapel Bethel fel aelod a blaenor.

Er pob anrhydedd, dyrchafiad a swyddogaeth a ddaeth i'w ran, nid yw Meuric wedi anghofio ei wreiddiau. Mae mor agos at bob un ohonom ag y bu erioed.

Clod iddo.

Ei gyfaill Alun Evans.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy