Yn ffodus i ni yma ym Mro Dysynni apwyntiwyd pennaeth newydd i Ysgol Penybryn ac un i'r Ysgol Uwchradd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Helen Lewis ydy Pennaeth newydd yr Ysgol Uwchradd; hi fydd Pennaeth Mewn Gofal yr ysgol am y deuddeg mis
nesaf.
Merch leol yw Helen, yn enedigol o Dy¬wyn a sydd bellach yn byw ym Mryn¬crug gyda'i gŵr, Myfyr a'u dwy ferch.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Peny¬bryn ac Ysgol Tywyn cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth mewn Addysg ac Almaeneg.
Aeth hi ddim i weithio i fyd addysg yn syth o'r coleg, fodd bynnag; yn hytrach cafodd waith gyda Lloyds Bank yn Abertawe cyn dychwelyd i Aberystwyth i hyfforddi i fod yn athrawes.
Bu'n gweithio wedyn am flwyddyn mewn ysgol gynradd yn Telford.
Dychwelodd i Dywyn i briodi bachgen Ileol (Myfyr, Gwyddgwion) ac i fagu teulu.
Yna bu'n gweithio'n rhan amser yn siop Bradshaws yn Nhywyn ac yna fel athrawes lanw yn Ysgol Tywyn.
Cafodd ei hapwyntio yn Bennaeth Cynorthwyol yr ysgol yn 2005.
Merch o Ddolgellau ydy Menna Pugh, Pennaeth newydd Ysgol Penybryn.
Addysgwyd hi yn Ysgol Gynradd y dref ac yn Ysgol y Gader cyn iddi barhau a'i haddysg yng Ngholeg y Normal, Bangor.
Oddi yno, symudodd i lawr i Gwm Rhymni am chwe mlynedd i ddysgu yn Ysgol Gymraeg Rhymni ac Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed.
Dychwelodd wedyn i'w hen ysgol gynradd yn Nolgellau am ddwy flynedd cyn ei hapwyntio yn bennaeth ar Ysgol y Brithdir, swydd y bu ynddi am bedair mlynedd ar ddeg.
Mae'n briod gydag un o fechgyn Abergynolwyn ac mae ganddynt ddwy ferch.
"Rwy'n yn edrych ymlaen at ddechrau yn Ysgol Penybryn," meddai, "i gario
ymlaen a'r gwaith da sydd wedi ei wneud yn yr ysgol eisoes.
Mae'r DAIL yn llongyfarch y ddwy ar eu penodiad ac yn dymuno'r gorau iddynt yn eu swyddi newydd.