|
Dyna be' sy'n digwydd i'm pensiwn i, eglurodd Selwyn Goodchild o Dywyn. Mae o'n mynd yn syth i mewn i'm cyfrif banc ac mi fydda inna'n tynnu arian allan ohono pryd a phan y bydda i eu hangen nhw.Cytunai Idwal Evans o Dywyn ag o. Pam dylwn i giwio yn y Swyddfa Bost unwaith yr wythnos i godi fy mhensiwn tra y gallwn i drefnu iddo gael ei dalu i'r banc unwaith y mis? Beth am y bobl hynny sydd mewn cartref i'r henoed? Faint o drafferth fydd y newid yn ei achosi iddyn nhw? Dim, yn ôl Glenys Allen, y matron yng nghartref y Bae yn Nhywyn. Rydan ni'n gorfod bod yn ofalus iawn wrth drin arian y bobl sy'n aros efo ni ac o'r herwydd mae eu pensiwn nhw yn cael ei dalu i mewn i'r banc ers blynyddoedd. Mae Edith Stephenson, y Bostfeistres yn Nhywyn, yn poeni yn arw am oblygiadau'r newid. Rydan ni wedi gweld newid yn barod yn ystod wythnosau cyntaf y sustem newydd, meddai. Mae amryw o'r pensiynwyr sydd wedi derbyn llythyr gan y llywodraeth wedi dewis cefnu ar y Swyddfa Bost a threfnu i'w pensiwn gael ei dalu i gyfrif banc. Ydy pobl yn sylweddoli, tybed, bod modd talu'r pensiwn i gyfrif yn y Swyddfa Bost ac nad oes raid ei roi mewn cyfrif banc? Mae'n amheus gen i ydy pawb yn sylweddoli hyn, meddai Edith. Fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg efo budd-dal plant gydag amryw o famau yn cefnu ar y Swyddfa Bost am y rheswm syml nad oedden nhw wedi deall y gallen nhw ddal i godi'r budd-dal yno. Mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli y gallwn ni yn y Swyddfa Bost gynnig gwasanaeth bancio iddyn nhw. Mae sôn am gael un o reolwyr y Swyddfa Bost i fynd o gwmpas cymdeithasau fel y W.I. a Merched y Wawr i egluro yn union i bobl beth sy'n digwydd a pha ddewis sydd ganddyn nhw. Ychydig yn hwyr yn y dydd, efallai, o gofio fod y drefn newydd yn bodoli i rai pensiynwyr yn barod. Beth bynnag a ddigwydd, mae'n bwysig cofio un peth: does dim angen i neb boeni gormod ar gownt y newid. Mi fydd pensiynau pobl yn saff pa gynllun bynnag fyddan nhw yn ei ddewis. Ac os ydy pensiynwyr yn dal mewn penbleth, piciwch draw i'r Swyddfa Bost a gofynnwch i'r staff yno egluro y sustem newydd i chi. Fe fyddan nhw yn falch o wneud hynny.
 |