Chlywais i erioed 'mo John Robertson o Fryncrug yn mynegi'r geiriau yna ond mi fasa ganddo fo bob hawl i'w dweud nhw.Er ei fod wedi ymddeol ers rhai blynyddoedd bellach mae o'n dal i fod yr un mor brysur ag erioed ym myd pêl-droed a chwaraeon. Meddyliwch am y swyddi mae o'n eu dal ar hyn o bryd:
Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Meirionnydd; Cadeirydd ac Ysgrifennydd Cynghrair Llŷn ac Eifionydd; Cadeirydd Maboed Mân Tywyn. Yn ogystal mae'n aelod o Banel Cist Gymuned Gwynedd ac mae'n aelod o Gyngor Chwaraeon Lleol Cymru. Ar ben hyn, mae'n treulio oriau bob wythnos efo plant a phobl ifanc o bob oed yn ei hyfforddi nhw mewn sgiliau pêl-droed.
Un o Ddolwyddelan ydy John ac efo'r clwb pêl-droed lleol y dechreuodd ei holl waith caled pan ofynnwyd iddo fod yn drysorydd y clwb yn 1966. Ymhen pedair blynedd roedd John wedi symud i fyw i Fryncrug ac ymhen dim fe'i cafodd ei hun yn Gadeirydd y clwb pêl-droed yno. Yna bu'n rheolwr y clwb am ddwy flynedd cyn iddo droi ei olygon i gyfeiriad plant a ieuenctid y fro a sefydlu Cynghrair y Maboed Mân yma yn 1977.
Ac mae'r Gynghrair yn dal i ffynnu sy'n golygu fod plant o chwech hyd ddeunaw mlwydd oed yn cael y cyfle i chwarae peldroed strwythuredig yn rheolaidd.
"Mae gweld y plant yn cael y cyfle i fwynhau chwaraeon yn rhoi pleser mawr i mi," eglurodd John. Ychwanegodd fod gweld rhai o'r bobl ifanc yn cael llwyddiant ym myd chwaraeon (pobl fel Robert Davies o Dywyn sydd ar lyfrau West Bromwich Albion) yn rhoi mwy fyth o bleser iddo.
Doedd ryfedd yn y byd, felly, i John gael ei enwebu am wobr Cyflawniad mewn Chwaraeon yng ngwobrau Help the Aged. Gwahoddwyd ef i Westy'r Dorchester yn Llundain ddiwedd mis Mawrth ac yno fe gyhoeddwyd mai ef oedd i'w wobrwyo eleni. Mwynhaodd noson fythgofiadwy yng nghwmni ei deulu a sawl person enwog - Cherie Blair, Cilla Black, Lionel Blair a'r newyddiadurwr, Martin Lewis i enwi ond rhai.
Er mai pêl-droed yw hoff gêm John rhaid peidio ag anghofio ei fod wedi hybu pob math o chwaraeon yn yr ardal gan gynnwys beicio, nofio, tenis a sboncen. Mae wedi chwarae rhan amlwg hefyd mewn cynlluniau i annog pobl i gymryd diddordeb mewn gweithgareddau llai poblogaidd megis hwylio, golff a phaffio.
Be' nesa? Rhaid cofio fod John yn 70 mlwydd oed er na fyddech chi byth yn dweud hynny wrth sylwi ar ei frwdfrydedd pan fydd yn hyfforddi'r plant (mae'n hyfforddwr trwyddedig efo UEFA).
"Dydw i ddim yn meddwl am 'ymddeol' ar hyn o bryd," meddai, "ond fedra i ddim cario ymlaen am byth. Felly, rydw i'n canolbwyntio mwy y dyddiau yma ar annog eraill i gymryd yr awenau hyfforddi."
Mae un peth yn sicr. Pan fydd John yn penderfynu rhoi'r gorau iddi mi fydd hi'n golled enfawr i'r cylch. Yn y cyfamser, gadewch i ni gydlawenhau gydag o a'r teulu yn ei lwyddiant a'i anrhydedd.
Diolch am oriau o lafur cariad, John; mwynha dy awr fawr - rwyt ti'n llawn haeddu dy anrhydedd.