|
Mae eu hymdrechion wedi adfer ychydig o urddas i'r fynwent unwaith eto gan roi cyfle i berthnasau ymweld a beddi a fu o'r golwg am flynyddoedd lawer.
Mae'r tîm yn rhoi eu llafur yn rhad ac am ddim ar ôl derbyn dedfryd gan y llysoedd i wneud gwaith Ad-dalu Cymuned ac mae'r prosiect yn cael ei gwblhau dan oruchwyliaeth Ardal Brawf Gogledd Cymru.
Sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cadfan yn y flwyddyn 514 ar ôl iddo ddod drosodd i Gymru o'i wlad enedigol, Llydaw.
Y rhan hynaf o'r eglwys bresennol yw canol yr eglwys, sy'n dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar ddeg. Daw'r to a'r ystlysau o'r drydedd ganrif ar ddeg a daw'r gweddill o Oes Fictoria.
Meddai Warden yr Eglwys, Mike Edwards, sydd hefyd yn gadeirydd Cyngor Eglwys y Plwyf:
"Mae'r tîm wedi gwneud cyfraniad rhagorol - maen nhw'n wych. Mae nhw'n dod yma bob wythnos ar ddydd Llun yn ddi-ffael ac yn gweithio'n galed dros ben.
"Geraint Jones, y goruchwyliwr, sydd wedi eu rhoi ar ben ffordd ac mae nhw wrth eu bodd gyda'u gwaith lIaw ac yn awyddus i ddal ati a gorffen.
"Mae nhw'n ymfalchïo yn eu gwaith ac mae hyn wedi agor fy lIygaid o ran y cynllun Ad-dalu Cymuned.
"Mae nhw'n weithwyr gwych ac mae'n werth chweil gweld eu bod nhw am wneud rhywbeth i'r gymuned. Hebddyn nhw, 'dwn i ddim ble fydden ni. Mae nhw'n fendith.
"Does yr un ohonom yn berffaith. Gallai rhywbeth fel yna ddigwydd i unrhyw un. Pe byddech yn pwyso'n rhy drwm ar y sbardun neu'n anghofio eich trwydded, . . . . . .gallai ddigwydd i chi.
"Gobeithio nad oes gormod o bobl yn gwybod am y cvnllun neu bydd eraill ar eu holau!"
 |