BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Cofeb John Robertson - Y Pencampwr Cofeb i pencampwr
Tachwedd 2008
Hanes dadorchuddiad cofeb arbennig i John Robertson - y pencampwr.

Roedd hi'n fore hyfryd o Hydref pan ddaeth criw bychan o aelodau Cymdeithas Mabolgampau Meirionnydd ynghyd a chynrychiolwyr lleol y campau a'r Cyngor Cymuned at ei gilydd ar Gae Chwarae Bryncrug i ddadorchuddio cofeb i'r diweddar John Robertson.

Lluniwyd y gofeb, sydd ar ffurf mainc o lechfaen ardal Trawsfynydd, gan gwmni Mr Gwyn Williams Bronaber.

Fe'i lleolir mewn man pwrpasol iawn oddi mewn i'r cae - man lle treuliodd John oriau lawer o'i amser rhydd fel rheolwr y tîm peldroed lleol ac fel hyfforddwr a mentor degau o blant yr ardal dros y blynyddoedd.

Cyflwynwyd y gofeb gan y Gymdeithas er gwerthfawrogiad o'i wasanaeth clodwiw i hybu'r campau yn lleol yn ogystal ag yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Maureen, ei wraig, gafodd y fraint o'i dadorchuddio a braf oedd cael cwmni'r merched, Heather a Fiona, sy'n gefn mawr i'w mam.

Buddug Llwyd Jones, Llwyngwril, Cadeirydd y Gymdeithas, fu'n gyfrifol am lywio'r seremoni a mynegwyd diolch a gwerthfawrogiad y teulu a'r gymuned leol gan y cynghorydd Arwel Pierce.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy