BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Rhan o'r goedwig Coed Ysgubor Wen
Mawrth 2010
Beth wyddoch chi am Bant Lwyfog a Choed Ysgubor Wen?

Mae'n debyg gwyddoch ein bod ni, Coed Cadw, wedi bod wrthi'n plannu coed ar lethrau'r dyffryn yn ymyl Tirgawen yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf.

Yn wir, mae nifer ohonoch wedi cael cyfle i blannu rhai o'r coed eich hunain.

Ar hyn o bryd, fe welwch y ddarpar goedwig yn drwch o 'flewiach' gwynion ar wasgar i fyny'r llethr, gan mai mewn tiwbiau plastig mae'r coed ifainc wedi cael eu plannu.

Pwrpas y tiwbiau yw gwarchod y coed rhag llystyfiant megis gwair hir a all eu mygu wrth iddynt dyfu. Fe fyddwn yn tynnu'r tiwbiau unwaith i'r coed dyfu'n ddigon cryf.

Efallai eich bod yn ei chael yn anodd dychmygu Coed Ysgubor Wen fel ag y bydd yn gorchuddio'r rhan hon o ddyffryn Dysynni.

Rydym yn ffyddiog y daw coedwig collddail hardd i gyfoethogi'r cyffiniau ymhen nifer o flynyddoedd.

Y gobaith yw y bydd plant i ddisgyblion presennol Ysgol Llanegryn, sydd wedi torchi'u llewys i balu tyllau ar gyfer y coed ifainc, yn gallu mwynhau crwydro ymysg coed derw, bedw a chyll gosgeiddig nepell o'u cartrefi.

Er y gobeithiwn y bydd Coed Ysgubor Wen yn gaffaeliad i'r dyffryn, rydym yn sylweddoli bod sefydlu coedwig newydd sbon danlli yn dod â newid sylweddol i'r tirlun.

Wedi dweud hyn, dyma'r newid mwyaf diweddar mewn cyfres o newidiadau neu esblygiadau sydd wedi digwydd dros y canrifoedd - llawer ohonyn yn gwbl angof erbyn hyn.

Serch hynny, rydyn yn awyddus i warchod a dathlu unrhyw hen nodweddion ac olion sydd yn llechu yma, yn hytrach na'u gorchuddio a'u gwthio i gilfachau'r cof.

Dyma pam dydyn ni ddim wedi plannu coed ar hyd yr hen lwybrau troed a throl sydd yn croesi'n igam ogam ar draws y llethrau tua'r Ffordd Ddu.

Caiff cenedlaethau y dyfodol werthfawrogi'r goedwig o'r llwybrau hyn yn ogystal a rhai newydd.

Er mwyn i ni allu gwneud gwaith iawn o'n cyfrifoldebau tuag at gyn-drigolion a defnyddwyr Tirgawen a Choed Ysgubor Wen ac i ni allu cyfleu rhywfaint o naws go iawn y lle i ymwelwyr, hoffem wybod mwy gennych.

Rydym eisoes wedi creu darlun ffeithiol drwy edrych ar hen fapiau, dogfenni a thrwy gynnal arolwg o'r adeiladau a saif ar y llecyn ond tybed a oes gennych chi unrhyw hen ffotograffau straeon neu atgofion a all ychwanegu ysbryd a chnawd i'r esgyrn sychion hyn?

Rydym yn arbennig o awyddus i hel deunydd am yr hen lwybrau a'r grŵp adeiladau ym Mhant Llwyfog, sef sied drol ac ysgubordai ŷd, sydd yng nghanol y safle.

Gwyddom bod yr olion presennol fel ag y maent yn dyddio'n ôl i'r 1800au ar y cynharaf, ond a ydych chi'n gwybod:

. Pwy a arferai weithio yma?
. Pa fath o droliau a arferai gael eu cadw yn y sied?
. 0 ble daeth yr ŷd ac i ble y cai ei gludo?
. Sut waith oedd casglu a thrin yr yd?
. A arferai rhyw weithgaredd arall ddig- wydd ym Mhant Llwyfog?
. Beth yw hanes y rhes o goed a blanwyd o flaen yr adeiladau?

Cysylltwch a Eryl Roberts, Coed Cadw, e-bost: [email protected] gydag unrhyw wybodaeth neu luniau os gwelwch yn dda - byddem yn falch o glywed gennych. Croeso i chi hefyd ymuno gyda ni i blannu coed dydd Sadwrn, 20 Mawrth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy