Efallai bod cau Ward Dyfi wedi bod yn fodd i godi'r drafodaeth i lefel uwch, oherwydd mae'n amlwg fod y methiant i'w hailagor wedi cyffwrdd a man sensitif iawn ymysg pobl yr ardal - yn enwedig y rhai ohonom sy'n cofio'r adeg yn y saithdegau cynnar pryd y gwnaed ymdrech mor ganmoladwy i godi arian yn lleol i dalu amdani dan arweiniad Dr. Tibbot Davies.Ond, ddeng mlynedd ar hugain ymhellach, mae'r clychau yn dechrau canu a ninnau yn poeni a fydd gennym ysbyty i'w mynychu mewn awr o gyfyngder.
Erbyn i'r rhifyn yma o'r DAIL i ymddangos, fe fydd rhai ohonoch wedi bod yn rhan o weithdai a sefydlwyd i geisio ein hymateb i'r dasg a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol yng Ngwynedd. Mewn dogfen a luniwyd gan dîm tasg, cyfeirir at y dewisiadau posibl o ran defnydd yr ysbyty i'r dyfodol agos. Cyfrannwyd tuag at y ddogfen gan aelodau'r Bwrdd Iechyd, ynghyd â rhai aelodau lleol gyda'r bwriad o wella effeithiolrwydd y gwasanaeth iechyd yma'n lleol. Mae hyn yn golygu bod angen ymateb i ofynion pobl nid yn unig ar sail iechyd ond hefyd y gofal ohonynt wrth iddynt fynd yn hŷn.
Yn fyr y pedwar opsiwn dan ystyriaeth yw:
Dewis A: gwneud dim - cyfleuster cleifion mewnol a ddarperir yn lleol
Gwasanaethau cleifion mewnol fel 'cam i lawr ' o' r ysbyty dwys.Gwasanaethau cleifion mewnol fel gwelyau 'camu i fyny' gyda mynediad uniongyrchol gan Feddygon Teulu lleol.Gwasanaeth mamolaeth 'Gartref o Gartref'.Gofal seibiant a lliniarol. Uned Mân Anafiadau, Pelydr-X a gwasanaethau cleifion allanol.Cyfyngiadau:
Dim yn ateb anghenion y boblogaeth ehangach.Byddai cyfleuster yr ysbyty angen buddsoddiad cyfalaf i sicrhau y darperir gwasanaethau iechyd modern.Dim yn gynaliadwy dros y 10-20 mlynedd nesaf o ganlyniad i newid yn anghenion y boblogaeth sy'n heneiddio.Parhau'n aneffeithiol gyda lefelau isel o ddefnydd gwelyau.Dim yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau ariannol.Darpariaeth sylweddol o ofal cymdeithasol yn hytrach nag ymyrraeth iechyd.Cyfyngu'r dewisiadau ar gael i adleoli'r feddygfa.Dewis B: model canolfan adnoddau gofal cychwynnol (dim gwelyau cleifion mewnol)
Rhwydwaith o wasanaethau yn y gymuned gyda'i gilydd yn yr ysbyty cymuned (dim gwelyau cleifion mewnol).Tîm 'Ymateb Cyflym' yn y gymuned i gynnig gofal i bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, gan gynyddu'r cyfleon i osgoi mynediad diangen i'r ysbyty a galluogi rhyddhau prydlon o'r ysbyty.Gwasanaethau cymuned i ateb anghenion clefyd cronig y boblogaeth e.e. cyflwr resbiradol, mynediad i'r 'Rhaglen Cleifion Arbenigo'.Amrywiaeth barhaus o wasanaethau cleifion allanol a gwasanaethau Mân Anafiadau.Gofal i gleifion â salwch terfynol yn eu cartrefi yn ystod dyddiau olaf eu bywyd. Rhoi grym a chynorthwyo ail-greu cymunedau lleol gydag amrywiaeth ehangach o wasanaethau gofal iechyd. Cyfyngiadau:
Darperir gofal cleifion mewnol mewn lleoliadau eraill. Ni fydd cleifion yn derbyn gofal cymdeithasol o gyfleusterau GIG mwyach.Darperir holl wasanaethau Pelydr-X mewn ysbytai lleol eraill.Dewis C: cyfleuster gofal canolraddol iechyd a chymdeithasol ar y cyd.
Gwelyau cleifion mewnol yn cael eu rheoli rhwng iechyd a gofal cymdeithaso!.Gwasanaethau therapi estynedig i wella cyfleon i bobl hŷn i gael eu rhyddhau o'r ysbyty'n llwyddiannus.Amrywiaeth barhaus o wasanaethau cleifion allanol, Mân Anafiadau a Phelydr-X.Cyfyngiadau:
Ni fyddai'r adeiladau presennol yn gallu bodloni anghenion y Safonau Cartrefi Gofal e.e. un ystafell gyda chyfleuster ystafell ymolchi yn gysylltiedig.Angen sicrhau arian ychwanegol gan Awdurdod Lleol Gwynedd i ariannu 'gwelyau gofal cymdeithasol '. Angen buddsoddi cyfalaf sylweddol i gynnal y gwasanaethau Pelydr-X cyfyngedig.Cyfyngu'r dewisiadau sydd ar gael i adleoli'r Feddygfa. Dewis D: model gofal iechyd cynalraddol
Gwelyau cleifion mewnol (gostyngwyd i 14 gwely).Gwasanaethau therapi estynedig i wella cyfleon i bobl hŷn i gael eu rhyddhau o'r ysbyty'n llwyddiannus. Parhau â'r amrywiaeth o wasanaethau cleifion allanol a gwasanaethau Mân Anafiadau. Cyfyngiadau:
Ni fydd cleifion yn derbyn gofal cymdeithasol o gyfleusterau GIG mwyach.Byddai angen buddsoddi cyfalaf sylweddol i gynnal y gwasanaethau Pelydr-X cyfyng. Mae'r Bwrdd Iechyd yn ffafrio opsiwn B neu opsiwn D gan na fyddai dewis A (gwneud dim - parhau â'r trefniadau presennol) yn darparu gwasanaethau sydd eu hangen yn y dyfodol nac yn dangos defnydd effeithiol o adnoddau. Nid yw dewis C yn ymarferol oherwydd anawsterau ateb safonau cartrefi gofal yn y adeilad ysbyty presennol. Yn ogystal, nid yw Awdurdod Lleol Gwynedd mewn sefyllfa hyn o bryd i gyllido gwelyau cymdeithasol ychwanegol yn yr ardal.
Cysylltodd Y DAIL â'r Cyng. Morgan Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Ysbyty Tywyn, a'i ymateb oedd:
"Difyr iawn fydd gweld pa syniadau fydd yn deillio o'r gweithdai, ond yn sicr, disgwylr siarad plaen a phendant am y dyfodol. Un peth sy'n sicr, nid wyf fel cadeirydd yn fodlon derbyn ond yr hyn rydym fel ardalwyr yn ei haeddu. Cofiwn mai Ysbyty Coffa ydyw, ac mai arian prin pobl yr ardal a'i cododd yn 1922."
Mae'n hanfodol bwysig felly, ein bod fel trigolion yr ardal yn mynegi a datgan ein hymateb. Mae ffurflenni ar gael i'r pwrpas hwn trwy gysylltu â Bwrdd Iechyd Gwynedd unai yn: Eryldon, Ffordd Cambell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 IHU neu ar wefan www.gwyneddhealth.org neu drwy ffonio: 01286 682451
Bwriedir ystyried yr ymatebion erbyn dydd Gwener, Medi 23, 2005 ac fe'i cyflwynir i'r cyhoedd mewn Cyfarfod Agored sydd i'w gynnal yn Nhywyn ar 19 Medi, 2005.
Mae'r DAIL felly yn annog pawb i fynegi eu barn.