"Ond pan gyrhaeddais, siaradai pawb yn Saes¬neg! Felly, rhoddais yr iaith i'r naill ochr am dair blynedd, a chanolbwyntio ar addurno'r tŷ, datblygu'r ardd, ac yn y blaen. Ond yn ystod y tair blynedd hyn, clywais bobl yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd yn y pentref ac yn Nolgellau, ac mi wnes i fagu diddordeb ynddi.Dechreuais ddysgu yn yr ysgol gynradd leol, ar y cwrs Dosbarth Nos. Yr oeddwn yn hapus fel y gog ar wahân i'r cadeiriau bach! Deuwn yn gaeth i ddysgu'r iaith, a symudais i'r cwrs Wlpan yn Nolgellau.
Ond yr oeddwn yn swil o siarad Cymraeg yn gyhoeddus. Yr oedd arnaf ofn gwneud camgymeriadau. Wedyn, treuliais benwythnos yn Nant Gwrtheyrn, ac nid anghofiaf byth eiriau'r tiwtor: "Os fyddwch chi ddim yn siarad yr iaith, fyddwch chi ddim yn dod yn rhugl".
Y tu allan i bob siop, dwedwch wrthoch eich hunan, "If not now, when? If not here, where?" Ar ôl hynny, dechreuais siarad Cymraeg mewn siopau lleol. I ddechrau, byddwn yn paratoi fy nghwestiynau'n ofalus iawn, ond ni fedrwn ddeall yr atebion!
Ddwy flynedd yn ôl sefais TGAU yn Gymraeg fel ail iaith. Am ddiwrnod! Ar y ffordd i'r arholiad, yr oeddwn mor nerfus, gyrrais y car trwy olau coch lle croesa'r plant y ffordd i'r ysgol gynradd.
Gwaeddodd y dyn lolipop, "Stop! You're booked!" Wel! Yn ystod yr arholiad, yr oeddwn yn crynu, chwysu, a methu canolbwyntio. Buasai fy enw yn y papurau newydd! Buaswn o flaen y llys! Buasai'n rhaid inni adael yr ardal! Ni ddigwyddodd dim byd, ond yr oedd hwnnw'n ddiwrnod a hanner!
Ar ôl TGAU, euthum i Goleg Meirion Dwyfor, er mwyn paratoi i sefyll lefel Uwch yn Gymraeg. Teimlwn yn ifanc unwaith eto, yn gweithio gyda phobl ifanc un ar bymtheg oed, dwy ar bymtheg oed. Hwn oedd fy nghyflwyniad i lenyddiaeth a hanes Cymru, byd oedd yn newydd imi.
Er mwyn ymarfer fy Nghymraeg, af unwaith y wythnos i ysgol gynradd leol, er mwyn gwrando ar y plant bach yn darllen yn Gymraeg, ac yr wyf yn genfigennus iawn ohonynt achos eu bod yn dysgu'r iaith mor gyflym. Hefyd, helpaf yn Siop y Dydd o dro i dro, ac yr wyf yn ddiolchgar iawn i'r bobl sydd yn fodlon stopio i sgwrsio gyda fi. Ond yr wyf yn nerfus iawn o'r til; disgwyliaf iddo gamymddwyn bob tro.
I gloi, y mae'n rhaid imi fynegi fy niolchgarwch i bawb sydd yn siarad Cymraeg gyda fi; hebddynt hwy, ni allwn ddal ati."
O.N. Erbyn hyn mae Bronwen yn dilyn Cwrs Gradd Allanol mewn Cymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.