|
Cyflwynwyd yr anrhydedd iddo mewn seremoni arbennig ar 16 Hydref, yng nghwmni tua hanner cant o'i deulu a'i ffrindiau.
Dyma hanes arbennig am y diwrnod a'r anrhydedd gan un o'r enwebwyr, Charles Arch.
Heddiw, yng Ngwesty Meifod ger Caernarfon gwelwyd Sam Pennal yn derbyn ei fedal er anrhydedd yn M.B.E. Derbyniodd Sam ei anrhydedd fel gwerthfawrogiad o'i wasanaeth hir i amaethyddiaeth a chefn gwlad.
Eto, rwy'n siŵr fod pawb, fel finnau, oedd yn dyst i'r achlysur, yn sylweddoli fod cymaint mwy y gellid ychwanegu am Sam. Efallai, i'r genhedlaeth iau mai casglwr ac adnewyddwr hen offer ydy Sam, ond i eraill ohonom gwyddom iddo ddefnyddio rhain i gyd i fraenaru rhai o lechweddau anoddaf rhan helaeth o ganolbarth Cymru.
Ychydig o gaeau ar draws ardal eang sydd heb fod Sam wedi bod yn gweithio arnynt a hynny ar adeg pan roedd rheidrwydd cael bwyd o'r tir. Fel un fu'n ddigon ffodus i dreulio lIawer orig yn ei gwmni credaf fod yn bryd i rywun yn yr ardal eistedd i lawr i roi ei hanes mewn llyfr. Byddai'n un o lyfrau mwyaf diddorol y ganrif. Mae enwau caeau a ffriddoedd, cymeriadau a phob datblygiad offer fferm yn rhedeg dros ei wefusau fel y pistyll clir lle mae'n casglu dŵr i'w yfed bob dydd, "gan ei fod yn iachach i dy gyfansoddiad di."
Ni fedraf feddwl am yr un gwladwr arall sydd yr un mor adnabyddus a chymeriad teledu, na Sam Pennal.
Hir oes iddo fo a'i briod.
Llongyfarchiadau calonnog iawn iddo oddi wrth holl ddarllenwyr y DAIL dymuniadau gorau hefyd i Doris a'r teulu i gyd.
 |