BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Ffatri Cwmni Halo Gwerthu Halo
Ionawr 2005
Peter Saunders i ollwng yr awenau
Mae Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Halo Foods, Peter Saunders, wedi gwerthu'r busnes i Glisten plc.
Mae gan gwmni Halo ffatrïoedd yn Nhywyn a Chasnewydd ynghyd â chwmni Nimbus yn Nolgellau ac mae'n gwneud ystod eang o nwyddau gan gynhyrchu tua 200 rmiliwn o farau bwyd amrywiol.

Bydd Peter Saunders yn aros ymlaen fel Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Halo Foods ond mae'n debygol i roi'r gorau i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn ystod y mis pan apwyntir person newydd i'r swydd. Bydd yn parhau fel Cadeirydd i'r Bwrdd ac yn Gyfarwyddwr o Halo tan ddiwedd 2006, yn ôl pob.

Bu Peter Saunders yn gysylltiedig â Halo am bron i 20 mlynedd, yn gyntaf yn Aberaeron ac yna yn Nhywyn. Holgates oedd enw'r cwmni i gychwyn ac yna fe'i gwerthwyd i Rowntree yn 1983. Bum mlynedd yn ddiweddarach gwerthwyd Rowntree i Nestle a phan oedd y cwmni mewn perygl o gau, fe fentrodd Peter y cwbwl i achub ei hen gwmni.

Jackie Paterson - rheolwr siop HaloAr y pryd, roedd gan y cwmni werthiant o tua £2 filiwn y flwyddyn; mae bellach wedi tyfu i tua £30 miliwn gyda staff o 450.

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad emosiynol iawn i mi," meddai Peter, "gan fy mod wedi ymroi'n llwyr iddo am y 30 mlynedd diwethaf. Ar hyd y blynyddoedd mae sawl cwmni wedi gwneud cynnig am y busnes ond tan rŵan doeddwn i ddim yn teimlo mai ei werthu oedd y peth gorau ..."

Beth yw barn rhai o weithwyr Halo am y datblygiad hwn?

Teimladau cymysg iawn sydd gan Hazel Pugh sydd wedi bod yn gweithio i'r cwmni ers bron i ugain mlynedd.

"Dw i'n teimlo'n drist bod Peter yn gorffen," meddai, "ond ar yr un pryd dw i'n falch iawn trosto fo. Wedi'r cyfan, oni bai amdano fo, fyddai'r cwmni ddim yn bod erbyn hyn. Fe roddodd ei dŷ ar y lein ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn gallu prynu'r cwmni yn ôl oddi ar Nestle."

Yr un ydy teimladau Jackie Paterson sydd wedi bod yn rheoli siop y cwmni ers 1997.

"Mi fyddwn ni i gyd yn colli Peter yn fawr iawn. Mae fy nyled i'n bersonol yn fawr iddo. Dw i wedi dysgu cymaint oddi wrtho."

Tristwch a llawenydd yn gymysg felly - ond gyda gobaith am barhad ffyniant y cwmni.

Mae'r DAIL yn dymuno'r gorau i gwmni Halo yn y dyfodol ac i Peter pan fydd yn ymddeol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy