|
Mae newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 92 oed - a'r meddwl a'r cof cystal ag erioed. Bu'n byw yn y pentref gydol ei hoes, ar wahân i'r cyfnod pryd y symudodd i fyw i Ellesmere Port. "Mi dorrodd y rhyfel allan, ac felly roedd rhaid inni ddychwelyd i'r Aber am ddiogelwch oherwydd fod yr ardal o gwmpas Stanlow yn beryglus ac yn atyniad i'r Almaenwyr oherwydd y gwaith diwydiannol oedd yn cael ei gynnal yno. Roedd dychwelyd yn ôl yn nefoedd i mi a'r teulu. Roedd y cyfnod cyn yr Ail Ryfel yn un digon cyffrous i ddweud y gwir, a chwarel Bryneglwys yn dylanwadu'n drwm ar ein ffordd o fyw. Roedd o'n amser caled i fagu teulu oherwydd doedd yna ddim llawer o arian wrth gefn ar ddiwedd yr wythnos. Gofalu am y teulu oedd y prif ddyletswydd i unrhyw wraig tŷ - trwsio dillad, paratoi prydau bwyd (a hynny ar amser!) Cofiaf yn dda mor bwysig oedd hi i sicrhau fod dillad y chwarelwr yn edrych yn dda ar gyfer y bore Llun - balchder oedd hynny. Doedd ganddo ni ddim gardd fel y cyfryw, ond roedd ganddon ni ddarn o dir ger yr ysgol - 'allotment' fyddech chi'n ei alw heddiw. Roedd y cynnyrch yn amrywio'n fawr a'r gyfrinach am hyn rwy'n siŵr oedd tail y mochyn; roedd gan bron bawb gwt mochyn yn y Bacia', ac wrth gwrs, roedd magu mochyn ac yna ei ladd, nid yn unig yn fodd o gynnal y teulu am ran helaeth o'r flwyddyn, ond hefyd yn fodd i ddangos cyfeillgarwch a ffordd o ddangos gwerthfawrogiad o garedigrwydd rhywun tuag atoch. Mi ges i bleser o rannu sawl platiaid o ffagots gyda'r cymdogion - fwy nag unwaith! Roedd bod yn gymwynasgar yn ffordd o fyw i ni. Mi allech chi ddadlau hefyd bod y rheilffordd i Dywyn wedi bod bron iawn yr un mor bwysig i'r pentref ac i'r chwarel. Hon oedd y ddolen gyswllt rhyngom a thref Tywyn. Wrth gwrs, ni fyddai'r chwarel wedi ffynnu onibai am y lein fach. Cofiaf yn dda fel y bu'n rhaid cludo bachgen ifanc o'r pentref mewn wagen i lawr i weld y doctor i Dywyn. Doedd dim angen injan oherwydd mi fyddai mynd i lawr y dyffryn yn rhywbeth cymharol hawdd gwthiad yn awr ac yn y man! Ond stori arall oedd dod yn ôl adref - roedd yna dipyn mwy o duchan yr adeg honno! Ysbryd cymuned ar ei orau, mi dybiwn i. Ond yr hen inclein oedd y cyswllt pwysicaf i ni yn y pentref ac mae'r llun yn dangos uniongyfeiriad y rêl fach. Ar y dde roedd yna weithdy'r saer ac yna dwy iat oedd yn cael eu caubob nos. Dilynai wedyn i lawr y bacic' hyd at y capel Methodistiaid lle roedd yna 'dwrn table' - yma wrth gwrs roedd Siop y Cwrt. Dyma sut y byddem yn cael ein nwyddau blawd a negeseuau - ac yna'r wythnos wedyn, deuai wagen y glo - pawb yn dod i lwytho ei hun gan daflu'r glo i'r cwt drwy dwll pwrpasol yn y wal. Jones y Gas oedd 'Manager Glo' ac mi fyddech yn gofalu fod arian yn barod ar ei gyfer bob pythefnos. Chwith meddwl bod yr hen reils haearn wedi cael eu codi a'u defnyddio i wneud 'ammunition' yn Birmingham. Hen hanes wedi diflannu o flaen ein llygaid. Roedd yna sawl man cyfarfod yn y pentref - i gapel yr Annibynwyr yr awn i yn selog; yr ysgol lle roedd Mr Fielding yn Brifathro ac yna'r siopau - Siop y Cwrt, Siop Stryd Tanybryn, ac yna Natal. Cofiaf yn dda am Kate ac Annie - Annie bellach yn byw yn America - ond sydd wedi dod yn ôl yn ei thro i gadw cysylltiad. Fel y gwelwch o'r llun - mae'r Aber wedi newid cryn dipyn. Efallai mai'r newid mwyaf yw fod llai o gymdeithasai'n bodoli heddiw. Rhain oedd yn ein cadw hefo'n gilydd. Pwy a ŵyr, efallai y cawn fwy o hyn yn y dyfodol trwy gyfrwng y ganolfan newydd. Gobeithio'n wir."
 |