|
Ddechrau'r flwyddyn roedd amheuon cryf a fyddai yna ras arall ar ôl 2009, yna ar ôl ras hynod o lwyddiannus ym mis Awst fe gadarnhawyd y byddai'r ras yn mynd yn ei blaen. Ym mis Hydref daeth y newydd fod darllenwyr y cylchgrawn, Runners World, wedi enwebu Ras y Trên fel yr orau a gynhaliwyd ym mis Awst drwy Brydain.
Yn naturiol, roedd George Watson, cyfarwyddwr y ras, wrth ei fodd.
"Mae hyn yn hwb mawr i'r ras, yn enwedig i'r llu o bobl sy'n cynorthwyo i'w chynnal mewn rhyw ffordd neu'i gilydd," meddai.
Mae'r pleidleiswyr yn cymryd amryw o bethau i ystyriaeth cyn penderfynu i fwrw eu pleidlais - y trefnu, faint o stiwardio sydd yn y ras, a chant a mil o bethau eraill.
Llongyfarchiadau gwresog i bawb fu'n helpu i drefnu ras 2009 - a phob lwc yn y dyfodol.
 |