BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Efrog Newydd Taith i Efrog Newydd
04 Ebrill 2003
Aeth Gwawr Parker a dau ffrind am daith i Efrog Newydd yn ddiweddar. Fe gawson nhw brofiadau anhygoel a thipyn o agoriad llygad ...

Blwyddyn diwethaf roeddwn yn ffodus o gael cyfle i fynd ar daith i Moroco gyda Ysgol Uwchradd Tywyn am bythefnos anhygoel, yn cerdded mynyddoedd yr Atlas a threulio amser yno gyda phlant y pentrefi mynyddig.

Wedi hynny roedd cwpwl ohonom wedi cael blas ar drafeilio a phenderfynwyd edrych am wyliau bythgofiadwy arall.

Yna mis Hydref gweld hysbyseb am wyliau i Efrog Newydd! Wedi holi ymysg nifer o'r criw o ffrindiau pwy oedd am fynd dros hanner tymor Chwefror, dim ond tri ohonom oedd am fentro, sef Sam Jeffs, Ian Davies a minnau, Gwawr Parker.

Dim amser i feddwl; yr wythnos wedyn roedd Sam wedi bwcio'r ticedi i ni hedfan i Efrog Newydd. Roedd yn rhaid i mi ddechrau safio arian nawr, diolch byth fod Dolig yn dod.

Wedi misoedd o ymchwilio a threfnu hostel i aros, amserlen o lefydd roeddem am ymweld â nhw, sut i fynd i Heathrow erbyn 5 y bore', daeth dydd Gwener, 14 Chwefror, amser i ni adael Machynlleth ar y trên i Lundain a Heathrow. Cysgu nos Wener yn "Heathrow Airport" ac yna ar ein ffordd fore dydd Sadwrn, ar yr awyren am 7 awr i Efrog Newydd.

Dydd Sadwrn, Chwefror 15
Cyrraedd am 11 o'r gloch y bore, lle roedd mor oer; yn llawer oerach na Chymru! Roedd yna dacsi melyn yn aros amdanom i fynd â ni i'r Big Apple Hostel, yng nghanol Manhattan. Wrth fynd drwy Efrog Newydd am y tro cyntaf, sylwi fod y lle yn enfawr, roedd y tacsi yn teimlo fel car rali yn gweu i mewn ac allan o'r strydoedd. Wedi cyrraedd yr Hostel, lle bach, uchel, reit ar ochr stryd Broadway a Time Square tua pum drws i lawr roedd Planet Hollywood.


Efrog Newydd
Efrog Newydd
Eira yn Efrog Newydd
Ar ôl dadbacio yn ein ystafell gynnes, allan i ymweld â'r 'Empire State Building'. O'r top gallwn weld pobman! Efrog Newydd i gyd o'n hamgylch, ond peidiwch â mynd os oes arnoch ofn uchder! Am fwyd wedyn drws nesa, i'r 'Deli'. Cefais 'Steak and Onion Sandwich' - adderchog! Mi ddechreuodd fwrw eira dros nos ac erbyn bore Sul roedd yna droedfedd o eira ym mhobman!

Dydd Sul, Chwefror 16
Dydd Sul, cawsom 'bagels' i frecwast yn y 'Deli' ac wedyn ffwrdd â ni i edrych o gwmpas. Wedi cael ticed i'r 'Metro' am yr wythnos, mi ddefnyddion ni hwn i fynd o gwmpas y ddinas i gyd.

Roedd y siop deganau fwyaf yn y byd rownd y gornel o'r lle roeddem yn aros, 'Toys' R' Us'. Roedd yna 'Dinosaur' a 'Feris Wheel' yng nghanol y siop anhygoel.

Bws Betty
Wedyn, roeddem wedi trefnu i gwrdd â Betty, gwirfoddolwraig o Efrog Newydd ar ran 'Big Apple Greeters' (gwasanaeth am ddim) i'n tywys o gwmpas y ddinas. Roedd gan Betty ffrind o Gymru. Roedd hi wedi ein dewis ni oherwydd ein bod yn dod o Gymru. Aethom i ymweld â siopau enwog 'Blooming Dales', 'Daffy's' a 'Macy's' (siop ddillad fwyaf y byd!) Hefyd siopau fel 'Armani', 'Gucci', a 'Tiffany's' - roedd y stryd yn llawn o siopau dillad drud.

Wedyn cerdded o gwmpas 'Central Park' yn yr eira ac i mewn i'r Plaza Hotel', gwesty smart iawn a drud, lle mae'r sêr' yn aros.

I lawr i'r 'East Village' i edrych am sioe Broadway i'w gwylio, ond doedd dim ticedi ar gael. Diolch i wasanaeth Betty, cawsom weld Efrog Newydd mewn ffordd wahanol, a chanfod llawer am gefndir y ddinas. Erbyn hyn roedd yr eira'n disgyn yn drwm ac yn y bore roedd yna ddwy droedfedd o eira ar y stryd!

Dydd Llun, Chwefror 17 - Efrog Newydd ar stop!
Dydd Llun, penderfynu mynd i'r 'Intrepid Sea-Air-Space Museum'. Roedd yna awyrennau, cychod a llong danfor enfawr ac yn dangos gwasanaethau rhyfel America dros y blynyddoedd. Wedi hynny, mynd am dro o gwmpas Manhattan ac ar y Metro i wahanol lefydd i weld ychydig o Efrog Newydd. Roedd yn bwrw eira drwy'r dydd ac erbyn y prynhawn roedd popeth wedi dod i stop, y ceir ddim yn symud, yr awyrennau na'r trenau, roedd pethau yn edrych yn seriws!

Dydd Mawrth, Chwefror 18 - Profiad emosiynol
Dydd Mawrth oedd y diwrnod mwyaf emosiynol. Er yr holl eira ym mhobman, penderfynom ymweld â Ground Zero lle distaw a hynod o drist. Mi ddaru mi ysgrifennu neges ar fflag Cymru a gosododd Sam y fflag gyda'r gweddill.Roedd y ffens yn llawn o fflagiau a thocynnau gwahanol bobl a gwledydd. Roedd yna bum fflag o Gymru a cwpwl o fflagiau Lleogr. Cerdded o gwmpas y lle i edrych am y tocynnau a'r negeseuon. Roedd awyrgylch dawel iawn yno, ac roedd Sam, Ian a minnau yn teimlo'n drist iawn wrth inni adael.

Yna cerdded lawr Wall Street, roedd yr eira erbyn hyn yn llenwi'r ffyrdd; doedd dim llawer o geir o gwmpas. Roedd Wall Street yn enfawr, ac roedd fflag America enfawr ar adeilad y Stock Exchange. Taith wedyn ar y fferi, heibio pont Brooklyn, Ellis Island, a Liberty Island - Statue of Liberty. Yn anffodus, oherwydd yr eira doedd y fferi ddim yn aros ar yr ynysoedd; piti gan ein bod wedi gobeithio ymweld â Ellis Island.

Dydd Mercher, Chwefror 19 - cyfarfod merch o Dywyn!
Dydd Mercher aethom i ymweld âr U.N (United Nations). Roedd yna nifer o adeiladau ond mi aethom ni i ymweld â'r un fwyaf enwog, lle mae'r U.N. yn cynnal ei chynadleddau. Cawsom fynd i mewn i rai o'r ystafelloedd lle roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal, rhai fyddwch yn eu gweld ar y teledu. Tra roeddem yno roedd cynhadledd ynglyn â rhyfel Iraq newydd orffen.

Y noson hon cawsom gwrdd â Elin Jones, merch Mair Jones, Pennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn. Mae Elin yn gweithio yn Efrog Newydd am flwyddyn, ac yn mwynhau'n fawr iawn. Diolch i Elin cawsom fynd allan am bryd o fwyd i Planet Hollywood ac wedyn i weld ffilm yn y sinema. Roedd yn braf cael cwrdd â rhywun o Dywyn!

Dydd Iau, Chwefror 20 - teg edrych tuag adre'
Dydd Iau roedd yn amser pacio am y daith adref. Ond yn gyntaf roedd yn rhaid gwneud ychydig o siopa. Roedd y bechgyn wedi edrych ymlaen yn fawr i hyn! Er bod yr eira yn dal i ddisgyn yn sobor o oer, buom yn siopa am ddiwrnod cyfan! Rhaid oedd cael anrhegion i bawb adref gan gynnwys Kes (ein ci bach ni)!

Ar ôl wythnos yn Efrog Newydd rydym ni i gyd eisiau mynd yn ôl, ond yn yr haf! Os cewch gyfle i fynd, peidiwch ag oedi.

Ar ôl noson yn Llundain, yn nhy modryb i Sam, roeddem yn troi am adref ar y trên unwaith eto. Diolch i Sam a Ian am edrych ar fy ôl i, neu efallai i mi am edrych ar eu holau nhw!

Gwawr Parker


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy