BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dail Dysynni
Anrhegion Nadolig Ystyr y Nadolig
11 Rhagfyr 2003
Cyn y bydd diwrnod y Nadolig wedi cyrraedd byddwn wedi clywed y geiriau Nadolig Llawen gant a mil o weithiau a ninnau yn dweud yr un peth yn ôl yr un mor aml.

Onid ydy hi mor hawdd edrych ar ein hamgylchiadau ein hunain ac anghofio am amgylchiadau pobl eraill? Eleni eto, bydd y Nadolig i lawer iawn o bobl yn bopeth ond llawen a hynny am nifer o wahanol resymau.

Byddwn yn clywed eraill yn dweud mai rhywbeth i'r Plant ydy'r Nadolig. Mae rhieni yng Nghymru yn gwario arian mawr ar anrhegion Nadolig i'w plant er mwyn sicrhau bod eu Nadolig hwy yn fwy na llawen.

Mae yna blant eraill sydd bron heb wybod beth ydy bod yn llawen. Wrth gyflwyno'r fideo Operation Christmas Child dywedodd yr adroddwr: "Nid oedd ond dagrau a wylo, tristwch ac anobaith i'w weld ar wynebau'r plant. Eu gwelydd wedi eu rhwygo a'u dinistrio gan ryfel a'u teuluoedd wedi eu rhwygo a'u llethu gan dlodi mawr.

Mae'r plant yn gaethweision i'w hamgylchiadau ac oherwydd hynny heb unrhyw obaith o brofi Nadolig Llawen - onibai ein bod ni yn gwneud rhywbeth i'w cynorthwyo."

Un ffordd arbennig o wneud rhywbeth yw ymuno yn ymdrech fawr Operation Christmas Child i roddi bocs esgidiau yn llawn o anrhegion i blant di-freintiedig y byd. Roedd hi'n werth gweld ar y fideo y tristwch a'r galan yn troi i wenu a chwerthin wrth i'r plant agor eu bocsys a chwarae gyda'r anrhegion Nadolig yr oeddynt wedi eu derbyn.

Onid ystyr y Nadolig yw bod yr Iesu wedi gwneud rhywbeth tebyg, er mwyn llawer mwy gogoneddus fel y mae'r apostol Paul yn dweud yn 2 Corinthiaid 8:9? Sylwch ar y ffordd y mae'r Iesu, sy'n gyfoethog yn ei Dduwdod, yn dod yn dlawd yn ei ymgnawdoliad.

Cafodd ei eni mewn tlodi; bu'n byw mewn tlodi a hefyd bu farw mewn tlodi. Dioddefodd y tlodi yna er mwyn i ni sy'n dlawd (heb gredu ynddo) ddod yn gyfoethog (trwy gredu ynddo). Cawn faddeuant am ein holl bechodau ac addewid am fywyd tragwyddol yn ei deyrnas Ef.

Onid ydym ni, felly, yn hynod o falch bod yr Iesu wedi ein helpu ni yn ein tlodi trwy roddi anrhegion arbennig i ni. Wedi'r cyfan, dyna beth ydy anrhegion Nadolig go iawn.

Nadolig Llawen i chwi oll wrth ddathlu dyfodiad Gwaredwr i'r byd.

Y Parch Brian Wright


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy