|
Heb betruso, cynigodd ei ffrind ysgol
Ellis Melia o Dywyn gadw cwmni iddo ar y daith.
Gan gofio mai ond un-ar-bymtheg oed yw'r ddau, roedd hyn yn dipyn o ymdrech gan iddynt ddilyn
Llwybr Glyndwr o Fachynlleth i'r Trallwng er mwyn cadw oddi ar y ffordd fawr, ac wedyn Llwybr Hafren i'r Amwythig.
Nid yn aml y gwelwn pobl
ifanc yn ymdrechu fel hyn i wneud daioni dros achos da a rhaid lIongyfarch Chris ac Ellis am eu hymroddiad a'u dycnwch.
Casglodd tyrfa o gefnogwyr wrth siop Ambiwlans yr Awyr yn Nhywyn i'w croesawu nôl a braf oedd gweld y ddau yn ddiogel ac yn edrych yn ffit ar ôl y
gwaith caled.
Gobeithir fod y nawdd
wedi cyrraedd sawl mil o bunnoedd a cheir manylion am y swm terfynol yn y
rhifyn nesa' o'r DAIL.
 |