Ond pe baech yn gweld y dyddiadur, fe sylwech fod Sadwrn, 29 Mawrth, yn eithriad. Tudalen wag sydd yno ar wahân i un sylw - John wedi'n gadael ni. Ac mae'r sioc a'r syndod yn para hyd heddiw.
Roedd y diwrnod i fod yn un llawn o weithgareddau amrywiol, ond, och a gwae, bum i mewn yn y 19 drwy'r dydd yn cerdded o un ystafell i'r llall yn holi "Pam? Pam John?"
Mae'r syndod a'r sioc yn deillio o'r ffaith fod John ar hyd y blynyddoedd, wedi bod yn fwrlwm o fywyd, yn llawn egni, yn llawn brwdfrydedd. Roedd o wedi llwyddo i gadw'i hun mor ffit mewn meddwl, corff ac ysbryd. Mae'n anodd gen i dderbyn ein bod ni wedi ffarwelio a fo.
Wrth i mi droi a throi'r atgofion yn fy meddwl, mae yna bennill bach yn dod i'r cof. Byddwn ar adegau yn ei drin a'i drafod gyda phlant hyn yr ysgol wrth imi eu harwain i feddwl am eu cyfraniad i gymdeithas wrth iddynt dyfu i fyny.
Us
Isn't it strange that Princes and Kings
And clowns that caper in saw-dust rings,
And ordinary people, like you and me
Are builders for eternity.
Each of us is given a bag of tools,
A shapeless mass and a book of rules,
And each must make 'ere life is flown,
A stumbling block or a stepping-stone
Alla i ddim meddwl am John fel 'stumbling block' - dadlau - ie - oherwydd yn y pen draw roedd ei agwedd at fywyd mor bositif; 'stepping stone?' Wel, ie yn bendant.
Mi gefais i fel llawer ohonoch y fraint o gael ein magu mewn pentref yng nghefn gwlad, lle'r oedd chwarae yn y nant neu wrth yr afon yn rhan annatod o'n bywydau.
Gan fod y dŵr yn llifo fel arfer, y gamp naturiol oedd i ni fod eisiau ei groesi trwy osod cerrig llamu yn rhediad y llif, ac yna, cael y profiad o neidio o garreg i gerrig i ochr arall y lan.
Fel yna y dois i i feddwl a gwerthfawrogi bywyd John - fel un a lwyddodd i greu cerrig llamu - gan roi sylfaen o brofiadau a chyfleoedd i bawb ddaeth i gysylltiad ag ef i'w deulu, i'w ffrindiau, yn enwedig i'r bobl ifanc ddaeth dan ei ddylanwad. Trwy osod cerrig yn y mannau priodol fe greodd sarn ddiogel y gellid ymddiried ynddi.
Ychydig yn ôl mewn sgwrs gyda John, pan oedd y drafodaeth am bêl-droed wedi dod i ben, mi ofynnais iddo, gan ein bod ni'n dau yn 'bobl ddwad' i'r ardal hon, - ble roedd ei wreiddiau. Roedd o'n eithaf sicr mai yma yn ardal y Ddysynni roedden nhw - ond mi roedd pentref bach Dolwyddelan yn agos iawn i'w galon. Ac mae hynny'n eithaf naturiol gan mai yno y magwyd John ac yno y treuliodd Maureen a fo eu dyddiau rhamantus yn caru, priodi a chael dwy ferch arbennig iawn, sef Heather a Fiona.
Roedd John ar ben ei ddigon yn y cyfnod yma yn cynnal ei deulu bach ac yn cael cryn bleser yn ei waith o fod yn hyfforddwr yng Ngholeg Hyfforddi Fforest y Comisiwn ym Metws y Coed. Gyda'r nos, byddai'n ymlacio trwy ofalu am y tîm pêl-droed lleol, a chai gryn bleser hefyd yn yr ardd, gan gario cwpan neu ddwy adre o'r Sioe- Flodau leol i ddangos i Mo a'r genod cystal garddwr oedd o!
Ond, yn 1970, daeth tro ar fyd a bu'n rhaid i John symud hefo'i waith i ardal Ceinws, ger Machynlleth gan fod y ganolfan ym Metws y Coed yn cau. Ond, diolch byth, fe ddaeth y teulu i ymgartrefu yn 'Siabod', ym Mryncrug.
Yn fuan wedi hyn, sylwodd John fod dyfodol y Comisiwn yn fregus a phenderfynodd droi at y sector breifat a mynd i weithio i gwmni Bowaters ac yna yn nes ymlaen i A.S.P. Roedd natur y gwaith yn heriol, yn llawn sialens a rhoddodd wasanaeth clodwiw i'r cwmnïau yma.
Fel y dywedodd un o'i gydweithwyr, "Roedd yn feistr caled, ond mewn
cyfnod anodd, John oedd y gŵr mwyaf hynaws a charedig yn fyw. Roedd y garreg a osododd mewn termau cyflawniad yn ei waith yn esiampl i lawer.
Ac yna'r ail garreg - y garreg a osododd yn nhermau ei gyfraniad i'r gymdogaeth, yn y fro hon ac ymhellach.
O fewn dim iddo ymgartrefu ym Mryncrug daeth rhai o bwysigion y 'frawdoliaeth bêl-droed' i gysylltiad ag ef - dynion fel Lewis Evans, a John Evans, Brynglas. Roeddent am iddo ymuno â'r Pwyllgor Pentref. Yn fuan, roedd wedi ei ddyrchafu'n Rheolwr y tîm pêl-droed ac o fewn tymor neu ddau roedd Bryncrug F.C. wedi dringo'r cynghrair gan ennill anrhydeddau a chwpanau lu.
Rwy'n cofio John yn dweud wrthyf eu bod yn treulio oriau bob nos Lun yn penderfynu ar y tîm ar gyfer y Sadwrn canlynol. Roedd pawb yn mynnu cael eu dweud yn y dewis, a gan fod y mwyafrif ohonynt a meibion yn chwarae i'r Clwb, gallwch ddychmygu'r diddordeb personol! Dyma beth oedd 'Come on mid-field' lleol!
Ond, roedd gan John sawl uchelgais pellach. Roedd eisiau gwella safon y bêl-droed yn enwedig ym mysg yr ifanc. I'r perwyl hwn yn 1978 galwyd cyfarfod yn swyddfa Bob Roberts ar y Stryd Fawr yn Nhywyn. Daeth Bob, John a minnau yno i drafod y syniad o ffurfio 'Cynghrair Maboed Man Tywyn a'r Cylch'. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd, - ffurfiwyd timau yn Nhywyn ac yn y pentrefi cyfagos ar gyfer bechgyn dan 14 oed, ac o dan gyfarwyddyd ac arweiniad John, Norman O'Harah ac eraill fel Maxi Williams, fe ddaeth y gynghrair i fodolaeth.
Am y tri deg mlynedd yn dilyn hyn, fe ymdaflodd John ei hun i gynnal y Gynghrair hon, ac yn ddiweddarach, ei ehangu i fod yn rhan o Gynghrair Llyn ae Eifionydd. Ond eto, yng nghefn ei feddwl, er cymaint y llwyddiant, doedd y lefel a'r safon o beldroed ar y pryd ddim yn plesio John.
Er mwyn sicrhau fod bechgyn yr ardal yn elwa'n llawn o'i brofiad, cymerodd John arno'i hun i fynychu llu o sesiynau hyfforddiant, gan drafaelio mor bell a Juventus yn yr Eidal, er mwyn astudio eu dulliau a'u ffyrdd hwy o ymdrin ag ymestyn sgiliau sylfaenol y chwaraewyr.
Ymhen amser daeth y gair 'dirprwyo' yn gyfrinair pwysig iddo ac fe lwyddodd i annog rhieni a cyn-chwaraewyr i ysgwyddo'r cyfrifoldeb o redeg y Gynghrair.
Yn y blynyddoedd diweddar, cymerodd y cam pellach o gynnwys merched yn y gweithgareddau a hefyd y plant bach o dan chwech oed.
Do, fe roddodd bleser i gannoedd o blant dros y blynyddoedd ac fe fu Cae Rhianfa a'r cae synthetig ger y Pwll Nofio yn fan cyfarfod iddynt - ac efallai yn ail gartref i John hefyd!
Mae llawer o'r peldroedwyr ifanc yma wedi parhau i chwarae'r gêm mewn cynghrair uwch ac wedi derbyn bri. Mae rhai wedi gadael y fro i ennill eu bywoliaeth fel chwaraewyr proffesiynol yn y wlad hon, ac eraill wedi mynd i hyfforddi pêl-droed mewn gwledydd tramor fel yr Amerig. Ac mae'r diolch yn bennaf i John. A sylwer - John oedd o i bawb o'r ieuengaf i'r hynaf. Roedd y parch yn yr enw. Doedd dim angen y 'Mr Robertson'.
Ond, daeth eraill o du allan i'r fro hon, yn ymwybodol o lwyddiant John a gwahoddwyd ef i rannu o'i brofiadau. Aeth hyn ag ef i lefel uwch o ymglymiad yng Ngwynedd a Gogledd Orllewin Cymru ac mewn rhai blynyddoedd daeth yn amlwg fel swyddog datblygu chwaraeon gwirfoddol uchel iawn ei barch. Roedd wrth ei fodd gyda'r sialens newydd yma er bod y swydd yn golygu oriau o drafaelio ac yn mynd ag ef oddi cartref yn aml. Ond fel y dywedai John, "Os gwneud swydd - yna rhaid ei gwneud yn iawn. "
Roedd ei lwyddiant a'i orchestion ar draws y sbectrwm chwaraeon i'w hedmygu. Ef oedd llais chwaraeon ym Meirionnydd. Defnyddiodd y sgiliau 'symbylu a hyrwyddo' a feistrolodd dros y blynyddoedd i ennyn diddordeb y gymuned, ac i annog a chefnogi'r ieuenctid i dderbyn cyfrifoldebau. Ond yn anad dim, darparodd y catalydd fel y gallai chwaraeon ymestyn dros bob ffin. I'r perwyl hwn, rhaid cofio, mai ei brif nod oedd datblygu sgiliau sylfaenol y campau ymhlith pobl ifanc er mwyn iddyn nhw yn eu tro gystadlu'n deg a meithrin partneriaeth iach.
Yn lleol, rhaid cyfeirio at ei gefnogaeth i'r Clwb Criced ac i Glwb Beicio Bro Dysynni, y cydlyniant a ddenodd rhwng rhieni brwd ac unigolion dawnus i archwilio opsiynau yn y Ganolfan Hamdden, a'r bartneriaeth a ffurfiodd rhwng yr ysgolion lleol a'r Clwb Golff a'r Clwb Hwylio yn Aberdyfi.
Dyma achlysur a gychwynnwyd ac a gynhaliwyd trwy waith caled ac ymroddiad John, ac a ddaeth yn icon i ardaloedd eraill yng Nghymru i'w hefelychu.
Gall ei lwyddiannau yn y maes hwn gaeaf eu crynhoi yng ngeiriau Mr Neil Pringle, Swyddog Gweithredol Cyngor Chwaraeon Cymru a ddywedodd:
"Doedd dim diwedd i dalentau John a doedd yr un her yn rhy anodd i'r ymgyrchwr gwrol hwn. Os oedd angen patrwm ymddwyn, esiampl o arfer gorau neu arweinydd ysbrydoledig, - doedden ni'n edrych ddim pellach na John."
Dyna pam y cafodd ei enwebu yn 2004 am wobr 'Arwyr Di-glod y BBC', a phaham y cyflwynwyd iddo'r 'Living Legend Award' yn Llundain, a hefyd 'Sgrôl Gwerthfawrogi Gwirfoddolwyr' - (yr unig berson i dderbyn yr anrhydedd hon yng Ngogledd Cymru yn ôl pob sôn.) Yn yr wythnosau olaf hyn roedd John wedi derbyn gwybodaeth fod Cymdeithas Pêl-droed Cymru am gydnabod ei lwyddiannau ym mis Mai eleni trwy gyflwyno gwobr arbennig iddo yn yr Hilton yng Nghaerdydd.
Ac yna, rhaid troi at y drydedd garreg llamu - ar bwysicaf oll...y teulu. Y dydd o'r blaen dywedodd rhywun wrtha'i wrth gyfeirio at golli John. "Football was his life." Ond, yn groes i'r diweddar Bill Shankley, doedd hynny ddim yn wir. Y teulu oedd ei fywyd - nhw oedd ar ben y rhestr bob amser Maureen a Heather a Fiona. Ac yna, daeth Meurig a Howard, a Heledd a Lowri. Rhain oedd yn bwysig.
Fyddai John heb gyflawni'r holl bethau eraill oni bai am y gefnogaeth a gafodd gan Maureen a'r teulu. Maureen oedd adre yn aros amdano yn hwyr y nos. Hi oedd yno'n gwrando arno'n dadansoddi'r diwrnod - yn ateb y ffôn yn ei absenoldeb, ac ar adegau yn ei dawelu! - Ond roedd y ddau'n deall ei gilydd i'r dim. Roedd eu cariad yn drech na phopeth.
Ac yna, roedd Heather a Fiona wrth gwrs - y genod. Fu erioed yr un tad balchach. Wedi i'r ddwy briodi, aeth y teulu bach yn un teulu mawr. Daeth Meurig a Howard, y meibion-yng-nghyfraith, yn gyfeillion i John, a phan anwyd Heledd a Lowri, yna roedd taid a nain ar ben eu digon.
Ymhyfrydai yn eu llwyddiant bob amser. Roedd wrth ei fodd yn chwarae ei rôl fel taid ifanc ei ffordd - boed o unai yng Nghaerdydd, neu ar un o'r gwyliau t
euluol tramor yn Sbaen, Majorca neu un o ynysoedd Groeg.
"Your grandad is cool" fyddai ymateb ffrindiau Heledd a Lowri'n wastad o'i weld yn ymuno i mewn yn hwyl yr ifanc. Ac mi fyddai John, (neu Johnnie, fel y cai Lowri'n unig y fraint o'i alw,) - yn ymlawenhau yn eu cyfeillgarwch. Ie. Dyn y teulu yn bendant oedd John.
Mae hyn wedi ei grynhoi yn gelfydd mewn cerdd a ysgrifennwyd am John gan y Prifardd Mererid Hopwood, ar ran Maureen, Heather a Fiona.
Er cof am John Harvey Robertson
Daeth gorwel Dolwyddelan
i alw'n nes galon lân
y mab a roddodd i mi'r
haul a'r mor, hwyl a miri'r
byd i gyd - a rhoi i'r gân
ei henw wrth roi'i hunan.
Un alaw yn gynhaliaeth - un enaid
i'n hannog drwy'r hiraeth,
un gan aur, y gan a'm gwnaeth
un wen o wir wahaniaeth
Eto heno, yn yr hwyr
daw yn sŵn d'enw synnwyr,
a gwn, mewn calon gynnes,
dy fod ti gyda ni'n nes;
a phob nos fe fydd rhosyn
yn dal ei phetalau'n dynn
i ddweud fy holl weddi i
yn dyner drwy dy enwi.
enwi dyn oedd imi'n dad,
a gŵr oedd i mi'n gariad.
Profiad amheuthun oedd cael ei adnabod. Mae'n beryg iawn na welith yr ardal neb tebyg iddo byth eto - fel dywedodd rhywun. "fe dorrwyd y mowld".
Pan fydd hiraeth yn eich llethu a'r tawelwch yn eich trechu a phan fydd bywyd ar ei anoddaf - yna, cofiwch hyn. Tra bo teulu, tra bo ffrindiau, tra bo cymdogion a chymuned, - yna - gan fenthyg cymal o gorws mawr y Cop yn Lerpwl ..
"You'll never walk alone'"
"Coffa da am un wnaeth gymaint dros eraill."